Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grŵp Troseddu Cyfundrefnol yn cael eu dedfrydu i garchar yn syth yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Mae aelodau o Grŵp Troseddu Cyfundrefnol o dde Cymru, oedd yn gwerthu tybaco, sigaréts ac Ocsid Nitraidd anghyfreithlon tra'n gwyngalchu dros £1.5m o arian, wedi eu dedfrydu'n ddiweddar yn Llys y Goron Abertawe i gyfanswm o 25 o flynyddoedd o garchar yn syth gyda 9 mlynedd o ddedfrydau wedi'u gohirio.

Yn ystod yr ymchwiliad fe wnaeth swyddogion o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) cynghorau Caerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg atafaelu gwerth £600,000 o dybaco anghyfreithlon, yn seiliedig ar gost y farchnad, ynghyd â gwerth £12,500 o flychau Ocsid Nitraidd.

Yn wreiddiol, roedd pob un o'r un ar ddeg aelod o'r grŵp wedi pledio'n ddieuog i dwyll o dros £1.8m a gyflawnwyd rhwng 2013 a 2022. 

Ond yn ystod prawf cychwynnol, newidiodd tri diffynnydd eu ple i euog ran o'r ffordd drwy'r achos, a phlediodd dau ddiffynnydd arall yn euog yn ystod ail brawf pan gafwyd y chwe diffynnydd arall yn euog o dwyll drwy reithfarn unfrydol. Cafwyd pedwar aelod o'r mudiad troseddol yn euog hefyd o droseddau gwyngalchu arian  gwerth dros £1.5 miliwn.

Dechreuodd y gweithrediad yn erbyn y giang ym mis Chwefror 2020, yn dilyn gwybodaeth ddaeth i law bod nifer o siopau yn ardal de Cymru yn gwerthu tybaco anghyfreithlon ac Ocsid Nitraidd. Cafodd niferoedd sylweddol o sigaréts a thybaco eu hatafaelu'n wreiddiol, ond roedd y siopau fel pe baen nhw'n ailgyflenwi'n syth, ac fe wnaethant barhau i werthu'r cynnyrch anghyfreithlon i'r gymuned leol, gan gynnwys plant.

Roedd y grŵp troseddu yn rhedeg eu busnes o o leiaf saith siop yn ne Cymru, gyda'r rhan fwyaf yng Nghaerdydd, ond defnyddiwyd siopau yn y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr yn ogystal gan gynnwys:

  • Apna Bazaar Bridgend Lt, Maes Dwnrhefn, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Best European Food Ltd, Stryd Clifton, Caerdydd
  • Laz Mini Market Stryd Clifton, Caerdydd
  • Barry Stores, Heol Tynewydd, Y Barri
  • European Shop, Heol Holton, Y Barri
  • World and Food Ltd, Heol Holton, Y Barri
  •  European Mini Market, Stryd Tudor, Caerdydd

Defnyddiwyd y siopau gan y giang i guddio eu twyll, gan ymddangos i fod yn gwerthu cynnyrch dilys a nwyddau cyfreithlon eraill, ond mewn gwirionedd, roedd dichelldro cymhleth ar waith gyda fflatiau uwchben y siopau a gofodau cudd eraill yn cael eu defnyddio i guddio niferoedd anferth o dybaco anghyfreithlon oedd yn cael ei werthu i gwsmeriaid.

Clywodd y llys bod y siopau, o amcangyfrif yn geidwadol, yn gwneud elw o oddeutu £1000 y dydd o werthu tybaco ac Ocsid Nitraidd anghyfreithlon, gyda chyfanswm gwerth y gwerthiant anghyfreithlon wedi'i amcangyfrif i fod yn £3.8m.

Yn aml, câi tybaco anghyfreithlon ei storio mewn gofodau mawr, wedi'u cuddio yn y siopau neu'r fflatiau. Defnyddiwyd magnedau trydan, pwerus oedd yn cael eu rheoli o bell i ddatgloi'r gofodau hyn nad oedd modd eu gweld â'r llygad dynol, a dim ond drwy ddefnyddio cŵn synhwyro a thrwy dorri drwy waliau yr oedd posib dod o hyd iddynt.

Fe wnaeth chwiliadau a phryniadau prawf ym mhob un o'r saith siop arwain at £600,000 o dybaco anghyfreithlon gael ei dynnu oddi ar strydoedd de Cymru. Cyfran yn unig o'r troseddu oedd hwn yn yr achos yma, ac nid yw'n cymryd i ystyriaeth unrhyw sigaréts neu dybaco a werthwyd gan y giang troseddol eu hunain.

Er eu bod yn meddwl eu bod yn gallu gweithredu'n ddi-gosb, yr hyn nad oedden nhw'n ei wybod oedd eu bod yn cael eu monitro, ac fel y dangosodd y ddau achos prawf, roedd yna dystiolaeth sylweddol ar gael i'r rheithgorau eu cael yn euog o'r troseddau hyn. Roedd yn amlwg o'r ymchwiliad eu bod yn credu bod ganddyn nhw'r hawl i redeg eu busnesau twyllodrus ac nid oeddent yn dangos prin dim edifeirwch am yr hyn a wnaethant.

Mae tybaco anghyfreithlon yn gwneud niwed mawr yn y gymuned. Mae'r ffaith ei fod mor rhad a mor hawdd cael gafael arno yn arbennig o ddeniadol i bobl ifanc ac eraill ar incwm isel, ac mae'n diddymu'r cymhelliant o ran pris sy'n cynorthwyo rhai sy'n ysmygu i roi'r gorau iddi. Rwy'n hynod falch o weld canlyniad llwyddiannus yr ymchwiliad hir ac estynedig hwn. Mae angen i droseddwyr wybod y byddant yn wynebu canlyniadau os ydynt yn dewis defnyddio'r cynnyrch anghyfreithlon yma.

Dywedodd Helen Picton, Pennaeth y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

Chwilio A i Y