Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Grŵp Gofalwyr Ifanc Ysgol Gyfun Pencoed yw'r cyntaf i hawlio gwobr

Mae'r Grŵp Gofalwyr Ifanc yn Ysgol Gyfun Pencoed yn arwain y ffordd ar gyfer arfer da mewn perthynas â gofalwyr ifanc, drwy fod yr ysgol uwchradd gyntaf yn y fwrdeistref sirol i hawlio Gwobr Plws Gofalwyr Ifanc Mewn Ysgolion

Wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad ag ysgolion, gwasanaethau gofalwyr ifanc a gofalwyr ifanc, mae'r wobr yn cynnwys dwy lefel, gyda'r haen uchaf, Gwobr Plws, newydd ei chyflwyno yn 2024.  Mae'r anrhydedd yn galluogi i ysgolion gael cydnabyddiaeth gan elusennau blaenllaw am eu harfer da a'u gallu i fodloni anghenion gofalwyr ifanc.

Gan hyrwyddo'r gofalwyr ifanc sy'n mynychu'r ysgol, mae un o staff yr ysgol, Mrs Bishop, a'i thîm llesiant wedi mabwysiadu sawl strategaeth i sicrhau bod aelodau yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi. 

Ers sefydlu'r grŵp yn 2017 gyda phum aelod yn unig yn y lle cyntaf, mae'r gofalwyr ifanc wedi cyfrannu at gynllunio a chyflwyno gwersi er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch eu sefyllfa, wedi dylunio eu logo eu hunain ar gyfer eu gwisg ysgol er mwyn iddynt gael eu hadnabod, yn ogystal â chael y cyfle i brofi gweithgareddau cymdeithasol megis syrffio neu ymweld â pharciau thema lleol.

Ar hyn o bryd, mae 30 o ddysgwyr yn perthyn i'r grŵp, gyda disgyblion yn cyfeirio eu hunain i ymuno os ydynt yn dymuno.  A hwythau'n cael eu cynnal bob pythefnos, bwriad y cyfarfodydd yw creu amgylchedd diogel lle gall dysgwyr siarad yn agored ag eraill sy'n profi heriau tebyg.  Yn ogystal, gall y sesiynau hefyd gynnig cymorth academaidd ychwanegol os oes ei angen.

Aelodau o Grŵp Gofalwyr Ifanc Pencoed a Gwobr Plws Gofalwyr Ifanc Mewn Ysgolion.

Dywedodd un gofalwr ifanc yn yr ysgol: "Mae'r grŵp yn fy helpu i oherwydd fy mod yn gallu cael seibiant o'r gwaith, o bopeth, a gwneud rhywbeth difyr."  Ychwanegodd dysgwr arall: "Gall bod yn ofalwr ifanc fod yn heriol ar adegau.  Rwy'n mwynhau mynychu'r cyfarfodydd gan fy mod i'n gallu cwrdd â gofalwyr ifanc eraill."

Dywedodd y Pennaeth, Edward Jones: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi gallu cyflawni Gwobr Plws Gofalwyr Ifanc Mewn Ysgolion.  Fel ysgol, rydym yn gobeithio ein bod yn arwain y ffordd o ran mabwysiadu dull ysgol gyfan o gefnogi gofalwyr ifanc.  

"Mae'r gwaith a wneir gan ein Hwb Llesiant i helpu ein gofalwyr ifanc yn dystiolaeth o'r bartneriaeth rhwng y grŵp a'r staff.  Mae'r wobr heb os yn perthyn i'r Grŵp Gofalwyr Ifanc - ac yn sicr dylai pob cymuned ysgol gael unigolyn fel Mrs Bishop!"

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Jane Gebbie: "Mae hyn yn newyddion gwych ac yn wobr cwbl haeddiannol! Mae gallu cefnogi a bodloni anghenion y gofalwyr ifanc yng nghymuned yr ysgol mewn ffordd mor sensitif a llawn yn dipyn o gyflawniad.

"Mae'n amlwg bod y berthynas rhwng y staff a'r disgyblion yn seiliedig ar ymddiriedaeth, gyda'r gofalwyr ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u meithrin, gan alluogi iddynt ffynnu. Da iawn, bawb!”

Chwilio A i Y