Grant Hanfodion Ysgol ar gael i gefnogi dysgwyr cymwys
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 15 Awst 2023
A ninnau ar drothwy blwyddyn ysgol newydd, caiff rhieni a gofalwyr eu hatgoffa i wirio a ydynt yn gymwys i dderbyn Grant Hanfodion Ysgol sy’n cynnig cefnogaeth i brynu eitemau angenrheidiol megis gwisg ysgol.
Mae grant Llywodraeth Cymru ar gael i bob grŵp blwyddyn ysgol gorfodol o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 11 a bydd pob dysgwr cymwys yn derbyn grant o £125. Fodd bynnag, bydd disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn derbyn £200 oherwydd y cynnydd yng nghostau dechrau ysgol uwchradd.
Gellir defnyddio’r grant ar gyfer:
- prynu gwisg ysgol ac esgidiau,
- prynu cyfarpar a chit chwaraeon,
- talu am weithgareddau addysgol, yn cynnwys gwersi cerddorol, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol,
- prynu hanfodion ar gyfer y dosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol,
- prynu gliniadur neb dabled os nad oes modd eu benthyg o’r ysgol.
Bydd dysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol hefyd. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i rieni/gofalwyr hawlio buddion eraill hefyd.
Mae’r holl feini prawf ar gael i’w gweld ar wefanycyngor ac mae hawl gan deuluoedd i wneud cais unwaith y flwyddyn ar gyfer pob plentyn. Mae cronfa 2023 i 2024 ar agor nawr a bydd yn cau ar 31 Mai 2024.
Hoffwn annog pob teulu sy’n gymwys i ymgeisio am y grant ac mae’n wych fod y gefnogaeth yma ar gael i’w defnyddio ar gyfer ystod eang o eitemau.
Mae'n holl bwysig nad oes unrhyw ddysgwr dan anfantais am resymau ariannol a bydd grantiau fel hyn yn rhoi hwb i gymaint o bobl ifanc ledled y fwrdeistref sirol.
Mae’n werth nodi hefyd bod y gronfa ar agor nid yn unig ar ddechrau’r flwyddyn ysgol ond hyd at ddiwedd Mai 2024.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:
Er mwyn ymgeisio am y Grant Hanfodion Ysgol, ewch ar wefany cyngor.