Fideo newydd yn arddangos darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg lewyrchus Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Mae fideo newydd ar fin cael ei gyhoeddi i arddangos taith addysg cyfrwng Cymraeg Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys grwpiau rhieni a babanod, ysgolion, a llu o gyfleoedd allgyrsiol.
Bydd y fideo’n cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ddydd Iau 26 Hydref, ac mae’n rhan allweddol o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) y cyngor.
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged ‘Cymraeg 2050’ o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac mae'n gweithio’n agos ag ystod o bartneriaid er mwyn sicrhau bod cynnydd yn nifer y dysgwyr sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg.
Yn ddiweddar, cafodd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y fwrdeistref sirol, Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, arolwg rhagorol gan Estyn, a chyflawnodd y gamp eithriadol o beidio â chael unrhyw argymhellion ffurfiol.
Dyma'r ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed i gael adroddiad ar y lefel hon, a chanmolwyd yr ysgol am greu diwylliant “Cymreig” cadarn ledled yr ysgol, ac am ei lefelau cyson o addysg o safon.
Mae pedair ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg llwyddiannus yn y fwrdeistref sirol hefyd, sef: Ysgol Gymraeg Bro Ogwr (Bracla), Ysgol y Ferch o’r Sgêr (Gogledd Corneli), Ysgol Cynwyd Sant (Maesteg) ac Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd (Betws).
Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill i gynyddu’r nifer o leoedd sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Bydd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn symud i adeilad newydd sbon gerllaw er mwyn cynyddu’r capasiti i 525 o leoedd, bydd Ysgol y Ferch o’r Sgêr yn cael adeilad pwrpasol newydd ar ei safle presennol, a fydd yn dyblu’r capasiti, ac mae cynlluniau i agor ysgol egin cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer Porthcawl, cyn agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg llawn yn y dyfodol.
Mae llu o brofiadau dysgu a chwarae cyfrwng Cymraeg ar gael ar gyfer plant - o fabanod ifanc i blant oed ysgol, wedi’u cynnig mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin a Dechrau’n Deg. Mae sesiynau’n agored i bob rhiant/gofalwr, beth bynnag fo’u gallu o ran y Gymraeg. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys ioga babanod, tylino babanod, straeon a chaneuon, yn ogystal â gweithgareddau aros a chwarae fel rhan o sesiynau Ti a Fi.
Rwy’n hynod falch o’r nifer o gyfleoedd addysg cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i blant o bob oedran ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae hefyd yn hynod galonogol gweld bod cynlluniau’n mynd rhagddynt ar gyfer y gwaith ehangu addysg cyfrwng Cymraeg mwyaf yn hanes Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn ategu ein hymrwymiad i gyflawni ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a chefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged Cymraeg 2050.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg: