Fforwm newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 25 Awst 2023
Mae cyfle i ofalwyr di-dâl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr lywio a dylanwadu ar wasanaethau cymorth lleol drwy fforwm newydd ar gyfer gofalwyr.
Mae'r fforwm yn cynnig cyfle i ofalwyr leisio eu barn am y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol, helpu i lywio’r gwasanaethau sy’n bwysig iddyn nhw, a chyfarfod â gofalwyr di-dâl eraill. Mae'r fforwm yn darparu cyfle gwych i ofalwyr leisio eu barn a helpu eu gwasanaethau lleol i ddeall anghenion cefnogi gofalwyr.
Diffinnir gofalwr fel unrhyw un sy’n gofalu’n ddi-dâl am ffrind neu aelod o’r teulu oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl, neu ddibyniaeth ddifrifol ar gyffuriau.
Rhedir y fforwm gan Lesiant Gofalwyr Pen-y-bont, sy’n rhan o’r elusen TuVIda, gwasanaeth sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr di-dâl yn yr ardal leol. Nid oes angen unrhyw gymhwyster na sgiliau penodol er mwyn mynychu.
Fforwm Gofalwyr
Dydd Iau 21 Medi, 11am-1pm
Gall gofalwyr fynychu wyneb yn wyneb yn yr Ystafell Weithgareddau yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH, neu ymuno drwy Zoom.
Bydd lluniaeth ar gael.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Mae TuVida yn elusen sy’n cynnig cymorth i ofalwyr di-dâl, a’r bobl maent yn gofalu amdanynt. Rydym yn darparu ein gwasanaethau ledled y DU.
Mae gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi gofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gall ein tîm cyfeillgar helpu gofalwyr gyda:
- Cyngor ar ofalu
- Mynediad at seibiant i ofalwyr
- Grwpiau cymorth
- Hyfforddiant am ddim
- Grantiau gofalwyr
- Cyngor ar iechyd a llesiant
- Aelodaethau rhatach ac am ddim
Mae TuVida yn bartner Carers Trust Network. Rydym wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yma: www.tuvida.org/bridgend