Ffair Cymorth Busnes yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Mai 2024
Gwahoddir busnesau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fynychu Ffair Cymorth Busnes sy'n cael ei threfnu gan dîm Menter’r cyngor.
Bydd y digwyddiad rhad am ddim yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Mai, rhwng 4pm a 6pm yn y Neuadd Fowlio Dan Do, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH. Mae'r digwyddiad galw heibio am ddim, wedi’i anelu at fusnesau newydd, a rhai sydd eisoes wedi sefydlu, gan roi arweiniad ar yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau cymorth busnes, gan gynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Busnes Cymru
- Adran Gwaith a Phensiynau
- Banc Datblygu Cymru
- Gyrfa Cymru
- Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
- Cwmpas
a llawer mwy.
Bydd busnesau hefyd yn gallu dysgu am gyfleoedd ariannu, gan gynnwys grantiau sydd ar gael a chyfleoedd i rwydweithio gyda busnesau eraill o fewn y fwrdeistref sirol. Mae’r digwyddiad am ddim i bob busnes, ac nid oes angen cofrestru - y cyfan sydd yn rhaid ei wneud yw galw heibio ar y diwrnod.
Pleser llwyr yw cynnal ffair cymorth busnes arall ar gyfer busnesau ledled y fwrdeistref.
Bydd y digwyddiad yn llawn cyfleoedd gwych i fusnesau fanteisio ar gymorth gan y cyngor a thu hwnt, drwy gyllid a chynlluniau eraill.
Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiad o fudd i fusnesau ledled y fwrdeistref sirol, a’u bod yn gallu manteisio ar y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.
Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Am ragor o wybodaeth am y ffair cymorth busnes nesaf yma, anfonwch e-bost at business@bridgend.gov.uk.