Eco Arwyr Cefn Glas yn ennill Gwobr Platinwm Ysgol Eco am y seithfed tro!
Poster information
Posted on: Dydd Iau 29 Mehefin 2023
Mae Eco Arwyr Ysgol Fabanod Cefn Glas wedi cael eu cydnabod am eu hymdrechion ym maes cynaliadwyedd, yn ogystal ag wrth ddatblygu tir eu hysgol i hyrwyddo bioamrywiaeth a thyfu eu cynnyrch bwyd eu hunain.
Mae 'Sioe Trashion' yr ysgol, sy'n arddangos gwisgoedd wedi'u gwneud o wastraff ailgylchadwy, yn ogystal â'i gallu i leihau'r defnydd o bapur o hanner, ill dau wedi cyfrannu at ei llwyddiant.
Fodd bynnag, mae trawsnewid tir yr ysgol yn lle y gellir ei ddefnyddio i blannu, gofalu am lystyfiant a chydweithio dros achos cyfunol, wedi bod yn hollbwysig wrth dderbyn y wobr.
Gan ddysgu cymaint o sgiliau a gwerthoedd i'r plant, mae llecyn yr ardd yn sylfaen i'w dysgu. Gan ennill Gwobr Eco Arloesi Cadwch Gymru'n Daclus drwy Gymru gyfan am eu hymdrechion amgylcheddol, derbyniodd yr ysgol grant Lleoedd Lleol ar gyfer Datblygu Natur o £18,000, gan ganiatáu i staff fuddsoddi'n llawn yn yr ardal awyr agored.
Gan ddechrau gyda dim ond grŵp bach o staff, rhieni, gofalwyr, llywodraethwyr ac aelodau o'r gymuned ar benwythnos oer ym mis Ionawr, i helpu gydag adeiladu tŷ gwydr a gwely o forder uchel ar gyfer pob grŵp blwyddyn, mae'r ysgol bellach yn hafan i arddwyr.
Ar Fehefin 16, agorodd yr ysgol ei drysau i arddangos gwaith caled pawb wrth ddatblygu'r tir.
Dywedodd y Cyngor Eco: “Rydym yn teimlo'n falch iawn o gael y Wobr Ysgol Eco... Rydym ni’n falch oherwydd ein bod ni’n ceisio helpu'r byd!”
Dywedodd y Pennaeth, Sara Johns: “Rydym ni’n falch iawn o bopeth rydym ni wedi'i gyflawni yn Ysgol Fabanod Cefn Glas o ganlyniad i waith caled cymuned gyfan yr ysgol - gan gynnwys ein Cymdeithas Rhieni a Chyfeillion (PFA), gwirfoddolwyr o'n teuluoedd a'r gymuned leol, Cadwch Gymru'n Daclus, ein llywodraethwyr, ein staff ac yn bwysicaf oll, ein plant gwych.
“Mae Eco wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud ac rydyn ni'n gwybod ei fod yn treiddio i'n cymuned a'r byd ehangach. Mae ein pobl fach wych wrth wraidd popeth rydym ni’n ei wneud ac wedi profi eu bod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd ehangach, a fydd yn parhau i ledaenu'r neges Eco trwy eu llwyddiannau gydol oes.
“Mae ein plant yn ein gwneud yn falch iawn bob dydd a dyma'r rheswm pan ein bod ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn Ysgol Fabanod Cefn Glas.
“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein helpu ar ein taith Eco!”
Waw! Am brofiad anhygoel i'w gynnig i blant Ysgol Fabanod Cefn Glas! Nid yn unig mae hyn yn dysgu'r plant sut i fod yn hunangynhaliol, mae hefyd yn meithrin parch at natur, yn ogystal â dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn gweithio gyda'i gilydd.
Felly da iawn i bawb a gymerodd ran, yn enwedig y plant sy'n ein hysbrydoli bob dydd!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg