Dynes o Bencoed yn euog o dwyll treth gyngor
Poster information
Posted on: Dydd Llun 09 Medi 2024
Mae dynes o Bencoed a hawliodd ychydig dros £7,200 o gymorth treth gyngor yn anghyfreithlon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei herlyn.
Clywodd Llys Ynadon Caerdydd fod Mrs Heather Thomas o Beechwood Grove, Pencoed wedi cyflwyno ffurflen hawlio gostyngiad treth gyngor, y gwyddai ei bod yn ffug, i'r cyngor ym mis Mai 2019, ac nid oedd wedi datgan cyfrif banc ychwanegol, cyfranddaliadau oedd ganddi yn Tesco Plc nac incwm o gynllun pensiwn.
Yn ôl datgeliadau ymchwiliad, yn ystod cyfnod ei hawliad a bontiodd y cyfnod rhwng Mai 2019 ac Awst 2022, derbyniodd Mrs Thomas gyfanswm o £282,673.28 mewn taliadau i'w chyfrif banc na lwyddodd i’w hadrodd i’r cyngor, a oedd yn golygu nad oedd ganddi hawl i'r £7,233.31 a dderbyniodd fel Gostyngiad Treth Gyngor.
Pleidiodd Mrs Thomas yn euog ddydd Iau 18 Gorffennaf 2024 yn Llys Ynadon Caerdydd ac o ganlyniad, cafodd ei herlyn am chwe throsedd o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013.
Cafodd ddirwy o £504.00, gorchmynnwyd iddi dalu gordal dioddefwr o £202, costau archwiliad o £1,500 a chostau cyfreithiol o £650. Mae’r cyngor hefyd wedi cymryd y £7,233.31 a haliwyd yn anghyfreithlon yn ôl.
Rydym yma i gefnogi pobl sydd wirioneddol yn profi anawsterau wrth dalu eu bil treth gyngor. Ac yn yr achosion hynny, byddem yn eich annog i gysylltu â ni cyn gynted â phosib fel y gallwn asesu pa gefnogaeth y gellir ei chynnig.
Fodd bynnag, os byddwn yn darganfod pobl yn cam-drin y system, mae ein neges yn glir - lle bydd angen, cynhelir ymchwiliadau hyd at erlyniad.
Yn ogystal â thwyllo’r awdurdod lleol, gall hawlio cymorth ar gyfer treth gyngor neu unrhyw fath arall o fudd-dâl arwain at drethi uwch a llai o wasanaethau, gan effeithio ar ein holl drigolion yn y pen draw.
Cynghorydd Eugene Caparros, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau
Os oes trigolion sy’n profi anhawster ariannol, dylent siarad â’n Tîm Refeniw i archwilio’r opsiynau sydd ar gael. Gellir cael cyngor a gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael arwefan y Cyngor.