Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dyfarnu statws Baner Werdd y mae galw mawr amdano i fannau gwyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae naw safle ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill Gwobr Y Faner Werdd uchel ei pharch gan Cadwch Gymru'n Daclus, gan gydnabod eu cyfleusterau rhagorol ar gyfer ymwelwyr, eu safonau amgylcheddol uchel, a’u hymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd dda.

Eleni, bydd Amlosgfa Llangrallo yn codi ei Baner Werdd am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol, a Gorsaf Dân Cwm Ogwr yw'r Orsaf Dân ac Achub gyntaf yn y DU i ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Yn ogystal ag Amlosgfa Llangrallo, rhoddwyd statws ‘Gwobr Lawn’ i Warchodfa Natur Parc Slip, Parc Gwledig Bryngarw, a Pharc Lles Maesteg, sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor mewn partneriaeth â Chyfeillion Parc Lles Maesteg.

Yn y cyfamser, bu i Ardd Farchnad Caerau, Coetir Ysbryd y Llynfi, Gorsaf Dân Cwm Ogwr a Choed Tremaen ym Mracla, unwaith eto gael eu cydnabod gyda 'Gwobr Gymunedol' ynghyd â Gardd Gymunedol Man Gwyrdd Marlas.

Mae’r Faner Werdd yn wobr a gydnabyddir yn genedlaethol a gyflwynir i fannau gwyrdd sy’n bodloni amcanion yn ymwneud ag ymrwymiad cymunedol amlwg, yn rheoli’r amgylchedd, bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth, ac yn croesawu ymwelwyr.

Mae'r safonau sy'n ofynnol er mwyn sicrhau Baner Werdd yn uchel iawn a hoffwn longyfarch yr holl enillwyr ar eu gwaith arbennig.

Rwy’n sylweddoli pwysigrwydd mannau gwyrdd i gymunedau lleol gan y gall unrhyw un eu mwynhau. Hoffwn hefyd argymell yn gryf bod ein preswylwyr yn gwneud y mwyaf o’r mannau arbennig hyn, gan ei bod yn amlwg eu bod yn gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar eich iechyd corfforol a meddyliol.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd:

Meddai Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadw Cymru'n Daclus: "Rydym wrth ein bodd yn gweld y niferoedd uchaf erioed o fannau gwyrdd yng Nghymru, sef 291, yn derbyn y gwobrau Baner Werdd a Baner Werdd Cymunedol uchel eu parch, gan gydnabod gwaith caled pawb fu'n gysylltiedig â chynnal a chadw'r safleoedd hyn.

"Yn benodol, rydym yn ymfalchïo o weld bod Cymru yn gartref i hyd yn oed mwy o safleoedd cymunedol sydd wedi derbyn gwobr, gan sicrhau mynediad at fan gwyrdd o safon uchel i bawb, gyda'n safleoedd yn chwarae rhan mor bwysig yn lles corfforol a meddyliol cymunedau ar hyd a lled Cymru."

Ceir rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru/cy/ 

Chwilio A i Y