Draenogod iach ar fin cael eu rhyddhau mewn gwarchodfeydd natur lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 28 Mawrth 2023
Gan weithio mewn partneriaeth ag Achub Draenogod Morgannwg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng nghanol y dasg o benderfynu pa warchodfeydd natur lleol sy’n addas ar gyfer rhyddhau draenogod yn ddiogel.
Caiff y gwarchodfeydd natur eu hasesu ar sail ansawdd, amrywiaeth, maint a diogelwch y cynefinoedd sydd ynddynt. Cyn y gellir rhyddhau unrhyw ddraenogod yn unrhyw un o’r safleoedd hyn, bydd yn rhaid sicrhau eu bod yn rhydd o glefydau, yn ffit ac yn iach. Byddant hefyd wedi cael eu hachub yn wreiddiol o'r ardal sy'n amgylchynu'r warchodfa.
Mae’r bartneriaeth hon rhwng y cyngor ac Achub Draenogod Morgannwg yn rhan o Brosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf.
Ariennir y fenter hon gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW), sy’n cwmpasu rhanbarth Bwrdd Iechyd Cwm Taf.
Un o brif nodau Rhwydwaith Natur Cwm Taf yw datblygu, adfywio a gwella hygyrchedd i 20 o fannau gwyrdd ledled y rhanbarth hwn.
Mae Gwarchodfa Natur Frog Pond Wood wedi cael ei hasesu eisoes ac ystyrir ei bod yn addas fel safle i ryddhau draenogod.
Gyda chymorth ariannol gan Rwydwaith Natur Cwm Taf, mae prosiect dysgu cynnar eisoes ar waith yma – mae meithrinfa leol yn cymryd rhan mewn prosiect i feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o ddraenogod.
Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn parhau i ymledu ei fanteision addysgol, yn enwedig o ran codi ymwybyddiaeth o gadwraeth draenogod a rhoi gwybod i bobl beth i’w wneud pe baent yn dod ar draws draenog.
Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau
Edrychwch ar ein gwefan i gael rhagor o wybodaeth am Rwydwaith Natur Cwm Taf.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu draenogod, edrychwch ar wefan Achub Draenogod Morgannwg