Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Diweddariad ar ffyrdd y fwrdeistref sirol yn dilyn Storm Bert

Yn dilyn y trafferthion sylweddol a achoswyd gan Storm Bert, mae criwiau’r ffyrdd a gyflogir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod wrthi’n clirio a glanhau.

Mae’r A4061 a oedd ar gau dros dro i’r ddau gyfeiriad rhwng Nantymoel a Chwm Rhondda (Ffordd Fynydd y Bwlch) bellach ar agor unwaith eto. Cwblhawyd gwaith i glirio’r holl falurion a oedd wedi cwympo ar y ffordd, ac yn dilyn y gwiriadau diogelwch, mae’r ffordd bellach ar agor.  

Mae’r ffordd a oedd wedi cau dros dro wrth y Bont Drochi ar Ffordd New Inn ym Merthyr Mawr, hefyd ar agor erbyn hyn, gan fod lefelau’r dŵr wedi gostwng a’r malurion wedi’u clirio o’r ffordd. Bydd gweithwyr y Cyngor yn mynd ati i glirio’r malurion sydd wedi casglu mewn pyrth bwaog pan fydd lefel y dŵr wedi gostwng.

Mewn mannau eraill, mae gweithwyr wedi bod yn clirio’r malurion a achoswyd gan goed a changhennau yn cwympo a llifogydd sydyn ar y prif ffyrdd a’r hyd y fwrdeistref sirol fel rhan o’r gwaith glanhau.

Am ragor o wybodaeth am sut mae'r cyngor yn ymdrin â thywydd garw, ewch i dudalennau tywydd y gaeaf yn www.bridgend.gov.uk.

Chwilio A i Y