Disgyblion ysgol yn codi arian er mwyn danfon adnoddau meddygol i Wcráin
Poster information
Posted on: Dydd Llun 06 Chwefror 2023
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi codi arian i gynorthwyo danfon adnoddau ac offer meddygol hanfodol i Wcráin.
Cododd disgyblion blwyddyn 6 dros £1,000 ar brosiect arbennig i gynorthwyo pobl Wcráin a bu i'r preswylydd lleol, Mike Hynda, yrru dros 4,000 o filltiroedd i ddanfon y cyflenwadau i ysbytai ac i gartref plant amddifad.
Dan y testun, #ChooseLove, cynlluniodd a chynhaliodd oddeutu 60 o ddisgyblion Blwyddyn 6 eu diwrnod elusennol eu hunain yn canolbwyntio ar rai o brofiadau ffoaduriaid.
Fel rhan o'r prosiect, daeth glaslanc o Wcráin i'r ysgol i siarad gyda'r disgyblion am sut oedd bywyd yn Wcráin a sut yr oedd yn teimlo'n gorfod ffoi o'r wlad.
Gofynnodd disgyblion i'r cwmni lleol, NatureQuest, eu cynorthwyo'n ystod diwrnod o weithgareddau, yn cynnwys creu llochesi, coginio yn yr awyr agored a mesur dros 108 milltir, y pellter o Lviv yn Wcráin i Lubin yng Ngwlad Pwyl, taith y bu'n rhaid i sawl ffoadur ei gwneud.
Daeth Mike Hynda, o Borthcawl, sydd â'i dad yn dod o Wcráin, i siarad gyda'r disgyblion hefyd am rai o'i deithiau dyngarol ei hun i Wcráin dros y flwyddyn ddiwethaf, yn danfon cymorth i ysbytai ar draws y wlad.
Wrth ymgymryd â thaith arall i'r wlad ychydig cyn y Nadolig, roedd Mr Hynda yn gallu mynd â rhagor o gyflenwadau meddygol gydag o, yn cynnwys lampau pen meddygol a brynwyd o ganlyniad uniongyrchol i'r arian a godwyd gan y disgyblion.
Dywedodd Neil Davies, pennaeth yr ysgol: "Mae'r profiad hwn wedi bod yn amhrisiadwy i'n plant, sydd wedi ei gynllunio o'r dechrau. Drwy'r broses, maent wedi dysgu llawer ac wedi codi arian hanfodol drwy nawdd. Maent nawr yn edrych ymlaen at weld Mike yn dychwelyd y tymor hwn er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y daith."
Rwy'n falch iawn o'r disgyblion hyn sydd wedi mynd ati i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r rhai sy'n wynebu erchyllterau dydd ar ôl dydd na ellir eu dychmygu.
Dyma brosiect anhygoel i fod yn rhan ohono ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt gyda'u gweithgareddau codi arian yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg