Disgyblion Ysgol Gynradd Ton-du yn ymddangos ar Cymru FM!
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
Yn ddiweddar, llwyddodd disgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Ton-du i arddangos eu sgiliau Cymraeg trwy fynd ati gyda’i gilydd i gynllunio a chreu eu rhaglen radio Gymraeg eu hunain, gyda chymorth gan y cyflwynydd radio, Marc Griffiths o Cymru FM.
Gan ddysgu am gerddoriaeth a cherddorion Cymraeg, yn ogystal â gwella’u sgiliau Cymraeg, cymerodd y dysgwyr ran mewn cyfres o sesiynau Cymraeg dan arweiniad Cathy Richards, trefydd y prosiect, cyn mentro ar y radio. Gan elwa ar y profiad diweddar a gafodd Cathy mewn Cynllun Sabothol Cymraeg, llwyddodd y disgyblion i fagu llawer o hyder yn yr iaith.
Fe gawson ni amser gwych gyda Marc Griffiths o Cymru FM. Aeth y plant ati i ysgrifennu a recordio’u rhannau eu hunain ar gyfer y sioe radio. Roedd Marc yn gefnogol iawn, gan ddangos i’r plant sut i ynganu geiriau Cymraeg yn iawn.
Cafodd y ddau ddosbarth flas mawr ar y profiad ac roedden nhw’n awyddus i rannu eu rhaglen radio gyda’u teuluoedd a’u cyfeillion. Maen nhw’n dal i sôn yn frwd am y profiad, a’r ffaith eu bod wedi cymryd rhan mewn rhaglen ar y radio!
Cathy Richards
Yn ôl un o’r disgyblion: “Bu modd i’n rhieni a’n teuluoedd wrando a dysgu Cymraeg – mae hyn yn fuddiol iawn, a ninnau’n byw yng Nghymru!” Ac yn ôl disgybl arall: “Fe wnaethon ni ddysgu am gerddorion Cymraeg a’u bywydau, ac fe gawson ni gyfle i chwarae eu cerddoriaeth ar ein rhaglen radio ein hunain.”
Mae’r prosiect hwn yn wych ar sawl lefel – o greu amrywiaeth o gysylltiadau trawsgwricwlaidd yn enwedig gyda cherddoriaeth a sgiliau digidol ac, wrth gwrs, y Gymraeg, i gyfleu’r arfer o ddysgu’r iaith a chaniatáu i ddysgwyr weld ei harwyddocâd mewn cyd-destun dilys.
Rydw i’n siŵr bod y profiad hwn wedi meithrin hyder y disgyblion a gymerodd ran yn y sioe – nid yn unig eu hyder yn y Gymraeg, ond hefyd eu hyder ynddyn nhw eu hunain. Da iawn, bawb – ffordd greadigol ac arloesol o ddefnyddio’r cwricwlwm er budd y dysgwyr!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg
I wrando ar y sioe radio, dilynwch y ddolen.