Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion yn bod yn greadigol wrth chwarae’n gynaliadwy yn ystod yr Wythnos Ailgylchu hon

Yr wythnos yma, dysgodd disgyblion Ysgol Gynradd y Garth ym Maesteg sut i fod yn gynaliadwy drwy chwarae, mewn gweithdy creadigol a gynhaliwyd gan Plan B Solutions, darparwr gwastraff a rheoli y cyngor, i nodi Wythnos Ailgylchu y DU. (14-20 Hydref).

Wrth dynnu sylw at y thema eleni, ‘Achubwch Fi’, addysgwyd y disgyblion am bwysigrwydd ‘achub’ ac ailgylchu eitemau bob dydd y cartref o’r bin sbwriel, er mwyn codi ymwybyddiaeth o gylch bywyd deunyddiau, wrth leihau, ail ddefnyddio ac ailgylchu gwastraff.

Wrth annog disgyblion i ddefnyddio deunyddiau wedi eu hailgylchu wrth chwarae, dangosodd y gweithdy pa mor hawdd yw ail ddefnyddio deunyddiau fel cardfwrdd, poteli plastig a ffabrig a’u haddasu i deganau ac offer creadigol eraill.

Yn ogystal, mae’r gweithdy yn cyd-fynd ag ail-lansiad y cynllun ‘Pod Gweithgaredd’ gan y cyngor, cynllun a gychwynnwyd gan yr Adran Pobl Ifanc Egnïol mewn ysgolion ledled y fwrdeistref sirol.

Sefydlwyd y fenter yn wreiddiol yn 2012 i gefnogi pwysigrwydd chwarae, wrth wella a chyfoethogi amser chwarae ysgolion. Mae deunyddiau gwastraff gan fusnesau a chartrefi yn eu haddasu a’u gwneud yn ddiogel ar gyfer y Podiau Gweithgaredd, cyn eu gyrru i’r ysgolion sy’n cymryd rhan, er mwyn i’r disgyblion gael chwarae’n greadigol â hwy y tu allan.

Os hoffech ddysgu mwy am gynllun Pod Gweithgaredd y cyngor, cysylltwch â Kelly Wake.kelly.wake@bridgend.gov.uk os gwelwch yn dda.

Mae'n wych gweld y disgyblion yn cymryd diddordeb ym mhwysigrwydd cynaliadwyedd mewn ffordd mor greadigol ac addysgiadol. Mae digwyddiadau fel y rhain yn adlewyrchu ein hymrwymiad i addysgu ac annog cyfranogiad led-led y gymuned i leihau gwastraff ar draws y fwrdeistref sirol.

Mae dysgu plant beth yw gwerth defnyddio deunyddiau mae modd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio yn hanfodol wrth lywio eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn y dyfodol ac mae hefyd yn ffordd ragorol o fwydo eu dychymyg.

Llongyfarchiadau, a da iawn i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gweithdy heddiw,  Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid, Plan B Management Solutions, a Groundworks UK am hwyluso'r gweithdy, ac am eu cyfraniad o ddeunyddiau gan y ganolfan ailgylchu gymunedol ym Maesteg, a'i siop ailddefnyddio, 'The Sidings'."

Yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Paul Davies

Chwilio A i Y