Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion cymwys ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i elwa yn sgil grantiau i helpu gyda phresenoldeb ysgol

Wrth i’r flwyddyn ysgol newydd nesáu, mae’r cyngor wedi cyhoeddi animeiddiad byr newydd sy’n tynnu sylw at yr adnoddau sydd ar gael i deuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd efallai’n ei chael hi’n anodd ymdopi â chostau ariannol mynychu’r ysgol.

Fel rhan o ymgyrch newydd i wella presenoldeb ysgol, nod yr animeiddiad yw gwella ymwybyddiaeth ynghylch y grantiau sydd ar gael i ddisgyblion cymwys, megis Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru, prydau ysgol am ddim, a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae’n rhoi gwybod am y cymorth ac arweiniad sydd ar gael i helpu gyda chostau allweddol, megis gwisg ac offer ysgol.

Mae Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru ar gael i rieni a gofalwyr disgyblion cymwys o’r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 11. Mae disgyblion cymwys yn golygu’r rhai sydd â hawl i brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, oni bai fod eu cymhwystra wedi’i amddiffyn wrth bontio neu’n rhan o’r fenter gyffredinol prydau ysgol am ddim.

Gellir defnyddio’r grant i dalu am y canlynol:

  • gwisg ac esgidiau ysgol
  • offer a chit chwaraeon
  • gweithgareddau ysgol, gan gynnwys gwersi cerddorol, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol
  • hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol
  • gliniadur neu ddyfais dabled os nad oes modd cael benthyg un o’r ysgol.

Bydd gan bob dysgwr cymwys hawl i grant o £125, a bydd disgyblion ym Mlwyddyn 7 yn cael £200 oherwydd cost uwch dechrau ysgol uwchradd.

Gall teuluoedd hawlio unwaith fesul plentyn, fesul blwyddyn ysgol. Mae cronfa 2024 i 2025 ar agor nawr a bydd yn cau ar 31 Mai 2025. Dylai rhieni a gofalwyr gyflwyno ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol y bydd eu plentyn yn ei mynychu ym mis Medi, neu gellir gwneud cais ar-lein drwy wefan y cyngor.

Caiff rhieni a gofalwyr hefyd hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer plant oed ysgol os ydynt yn cael budd-daliadau, gan gynnwys:

  • cymhorthdal incwm
  • lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm
  • cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm
  • credyd treth plant (nid credyd treth gwaith) os nad yw eich incwm blynyddol yn fwy na £16,190.
  • credyd cynhwysol (ddim mewn gwaith) neu gredyd cynhwysol (mewn gwaith) lle nad yw eich enillion yn fwy na £7,400 o'ch cyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Gall disgyblion a myfyrwyr sydd mewn addysg amser llawn ar ôl troi’n 16 mlwydd oed hefyd fod yn gymwys i wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Mae'r cynllun yn seiliedig ar incwm aelwyd, a gellir cael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â’r ysgol unigol neu Cyllid Myfyrwyr Cymru.

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd y fenter gyffredinol Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd yn cael ei chyflwyno’n raddol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 6. Mae hynny’n golygu y bydd gan bob plentyn o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6 yn ysgolion y fwrdeistref sirol hawl i gael pryd bwyd ysgol am ddim.

Lansiwyd y fenter yn 2022 i helpu i leihau baich yr argyfwng costau byw ar deuluoedd, ac atgoffir rhieni a gofalwyr disgyblion sydd ym Mlwyddyn 6 nad oes angen iddynt wneud cais, gan y bydd y ddarpariaeth ar gael yn awtomatig i’r disgyblion.

Gall rhieni a gofalwyr weld yr animeiddiad a chael mwy o wybodaeth am y grantiau sydd ar gael, gan gynnwys y meini prawf llawn, ar ein gwefan.

Mae grantiau ariannol a chyllid yno i ddarparu cymorth hanfodol i rieni a gofalwyr, ac rwy’n annog teuluoedd i fanteisio arnyn nhw, a lleihau rhywfaint ar y costau ariannol sy’n gallu cael effaith niweidiol ar gyfraddau presenoldeb ysgol.

Siaradwch â’ch ysgol i gael cymorth a chyngor. Mae cymorth hefyd ar gael gan elusennau fel Turn2Us, gan fanciau bwyd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol, a thrwy grantiau pellach - gan gynnwys y Gronfa Cymorth Dewisol.

Drwy leihau’r pwysau a ddaw yn sgil costau sy’n gysylltiedig ag addysg, gallwn helpu i sicrhau presenoldeb ysgol cyson, gan gynnig cyfleoedd o ran addysg a gwaith yn y dyfodol i blant, yn ogystal ag effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u llesiant.

Yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid, y Cynghorydd Martyn Jones

Chwilio A i Y