‘Diolch o galon’ am wneud Apêl Siôn Corn eleni mor llwyddiannus!
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2023
Drwy gydol mis Rhagfyr, gwnaethom alw ar gefnogaeth a haelioni grwpiau lleol, eglwysi, busnesau ac aelodau’r cyhoedd caredig i gyfrannu at ein Hapêl Siôn Corn 2023, i sicrhau bod plant sydd dan ein gofal ni yn cael anrheg i’w hagor ar Ddiwrnod Nadolig.
Er yr heriau ariannol, mae’r ymateb i Apêl Siôn Corn eleni, a’r cyfraniadau ati, wedi bod yn anhygoel. Diolch i haelioni cynifer o unigolion a sefydliadau lleol, mae apêl 2023 wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Dyma flas ar rai o'r cyfraniadau:
- Mae’r dudalen Just Giving, wedi’i rheoli gan ein partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wedi codi cyfanswm o £4,434 (£3,669 o gyfraniad a £765 mewn Rhodd Cymorth).
- Mae ein cydweithwyr yn Halo wedi codi £1,000 drwy gyfraniadau yn eu tiliau.
- Mae disgyblion a staff Ysgol Gyfun Bryntirion ac Ysgol Gyfun Maesteg wedi codi arian at yr apêl, yn ogystal â rhoi anrhegion.
- Mae tîm Gwasanaethau Cymdeithasol a thîm Llesiant a Gwasanaethau Dydd y cyngor wedi codi arian drwy werthu teisennau.
- Mae siopau Poundland ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cyfrannu oddeutu 600 o focsys detholiad o siocledi.
- Mae Eglwys y Bedyddwyr Hope wedi cyfrannu teganau ac anrhegion, yn ogystal ag arian parod.
- Rhoddodd Millie’s Community Blankets flancedi wedi’u gwau â llaw.
- Cafodd teganau ac anrhegion eu gadael yn llyfrgelloedd Awen a’r Swyddfeydd Dinesig gan gymuned Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
- Rhoddodd gwsmeriaid Corvo, bwyty canol y dref ym Mhen-y-bont ar Ogwr, deganau ac anrhegion newydd sbon.
- Cyfrannodd Gwerthwyr Tai Porters arian parod at yr apêl codi arian.
Diolch i’r 50 o wirfoddolwyr a lapiodd ac a roddodd drefn ar dros 1,400 o deganau ac anrhegion ar gyfer 287 o blant yn y fwrdeistref sirol sydd wedi’u henwebu gan wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar/Dechrau’n Deg i dderbyn anrheg. Maen nhw bellach ar eu ffordd i deuluoedd a phlant yn barod ar gyfer y Nadolig.
Bob blwyddyn, mae’r ymateb i Apêl Siôn Corn yn parhau i’n rhyfeddu, ond credaf mai dyma'r flwyddyn fwyaf llwyddiannus eto! Gwyddom fod y Nadolig yn rhoi straen ariannol ar bawb, felly rydym yn wirioneddol ddiolchgar a hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cymryd o’u hamser ac wedi gwneud ymdrech i gyfrannu.
Hoffem hefyd ddiolch i’n partneriaid yn Awen a Halo, yn ogystal â busnesau ac elusennau lleol a grwpiau eglwys, ysgolion cyfun lleol a staff y cyngor sydd wedi dod ynghyd i sicrhau bod pob plentyn dan ein gofal yn deffro i anrheg ar fore Nadolig.
Diolch i chi am gyfrannu mor hael - byddai hyn yn amhosibl heb y gefnogaeth aruthrol yr ydym wedi’i chael.
Dirprwy Arweinydd y cyngor a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd, y Cynghorydd Jane Gebbie