Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Digwyddiad BeachFest llawn antur yn dod i Borthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi penwythnos llawn antur o chwaraeon traeth, hwyl i’r teulu, arddangosfeydd bad achub a llawer mwy o dan y pennawd BeachFest@Porthcawl, sydd hefyd yn gweld digwyddiad RescueFest yr RNLI yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2019.

Bydd Bae Tywodlyd (Traeth Coney) yn cynnal y digwyddiad ar benwythnos y 15 a’r 16 Mehefin. Bydd modd i deuluoedd gymryd rhan yn yr antur drwy sesiynau ‘rhoi cynnig arni’ a bydd ambell i her Sul y Tadau yn cael ei chynnal hefyd. Cynhelir cystadlaethau elît yn ogystal, gyda thimau’n cyrraedd o bob cwr o’r DU i gystadlu mewn pêl-foli traeth, rhwyfo syrff, golff traeth a llawer mwy. 

Bydd y gweithgareddau’n parhau wrth iddi nosi ar nos Sadwrn 15 Mehefin gyda thwrnameintiau baneri traeth a phêl-foli, yn ogystal â sioe dân ar y diwedd i ennyn diweddglo cyffrous i weithgareddau’r diwrnod cyn bydd y difyrrwch yn ailddechrau ddydd Sul 16 Mehefin.

Bydd yr RNLI yn cynnal arddangosiadau cyffrous, adloniant a gweithgareddau codi arian wrth i’w digwyddiad RescueFest poblogaidd ddychwelyd ddydd Sul 16 Mehefin, ynghyd ag amrywiaeth o gerddoriaeth, gemau, adloniant, arddangosfeydd, arddangosiadau a stondinau marchnad ar hyd a lled Porthcawl dros y penwythnos.

Bydd Academi Traeth Cymru hefyd yn cynnal gweithdai achub bywyd gwyllt morol drwy gydol y penwythnos, a bydd stemar olwyn mordwyol olaf y byd, y Waverley, yn cyrraedd Harbwr Porthcawl, gan roi cyfle i deithwyr fwynhau’r digwyddiad.

Mae’r digwyddiad BeachFest yn cynnig rhywbeth at ddant pawb ac unwaith eto’n amlygu gallu unigryw Porthcawl i gynnal digwyddiadau twristiaeth mawr sy’n denu llawer o ymwelwyr o bob cwr o’r DU.

Mae hefyd yn bleser gweld cymaint o gydweithio a gwaith partneriaeth yn digwydd gan fod hyn yn sicrhau bod y digwyddiad mor amrywiol â phosibl i ddenu ystod eang o ymwelwyr.

Mae digwyddiadau o’r fath yn hollbwysig i’r economi leol ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol fydd yn ceisio gwneud y mwyaf o’r torfeydd sydd i’w disgwyl yn yr ardal.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai:

Ariennir y prosiect hwn drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae’r gronfa yn ganolog i agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ac yn darparu cyllid gwerth £2.6 biliwn i fuddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw ysgogi balchder mewn lle, a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, pobl a sgiliau.

Mae amserlen y digwyddiad i’w chael ar wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y