Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Degau o swyddi ar gael yn y Ffair Swyddi Gofal Cymdeithasol nesaf

Bydd degau o swyddi gwag cyffrous yn y maes gofal cymdeithasol yn cael eu hyrwyddo mewn ffair swyddi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr wythnos hon.

 

Bydd cyfleoedd mewn rolau fel Gofal Preswyl Plant, Gofal yn y Cartref, Byd â Chymorth, Gwasanaethau Dydd a Hybiau Cymunedol, a Gwirfoddoli a Phrentisiaethau’n cael eu harddangos fel rhan o fenter recriwtio gofal cymdeithasol parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Bydd cymorth ac arweiniad ar gael i unigolion sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol gan aelodau o dîm recriwtio’r awdurdod lleol, staff gofal yn y cartref, Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr ac amrywiaeth o ddarparwyr gofal annibynnol.

 

Bydd staff Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr hefyd yn bresennol yn y digwyddiad i drafod y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i unigolion sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth a maethu plentyn yn y fwrdeistref sirol.

 

Wedi’i drefnu gan Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, bydd y digwyddiad galw heibio, am ddim, yn cael ei gynnal yn Hwb Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Tŷ Llynfi, Maesteg, CF34 9DS ddydd Mercher 15 Chwefror, rhwng 10am a 2pm.

 

Croesewir ymholiadau gan yrwyr a phobl nad ydynt yn gyrru. Nid yw defnydd o gerbyd yn ofynnol ar gyfer pob swydd wag, fodd bynnag, mae cymorth ar gael ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn ymgymryd â gwersi gyrru ar gyfer y rolau hynny sy’n gofyn am drwydded yrru.

 

Am ragor o wybodaeth am y ffair swyddi, cysylltwch â Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr drwy ffonio 01656 815317 neu fel arall, anfonwch e-bost at: employability@bridgend.gov.uk

Mae'r digwyddiadau galw heibio hyn yn hynod boblogaidd bob amser, ac maent yn cynnig cyfle gwych i bobl ddysgu popeth sydd angen ei wybod arnynt er mwyn gweithio gyda'r awduron lleol yn y sector gofal cymdeithasol. “Rydym wirioneddol angen annog mwy o bobl i ystyried y llu o fanteision mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn eu cynnig. Mae’n yrfa hynod werth chweil, nad ydych angen cymwysterau ar ei chyfer bob tro, a gyda’r cymorth a'r hyfforddiant a gynigiwn fel sefydliad, ynghyd ag oriau gweithio hyblyg, mae wir yn swydd am byth.

Y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Chwilio A i Y