Dechreuwch ar eich Blwyddyn Newydd gyda dechrau iach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 03 Ionawr 2023
Gan fod adduned Blwyddyn Newydd nifer o bobl yn cynnwys gwella neu gynnal eu hiechyd corfforol a meddyliol, hoffai'r cyngor atgoffa trigolion bod nifer o gyfleoedd iddynt gyflawni eu nodau ar gael ar eu stepen drws.
O fynd am dro i Barc Gwledig Bryngarw i fynd i nofio yng Nghanolfan Hamdden Halo, mae ystod o opsiynau ar gael i weddu pawb.
Mae Halo, partner hamdden swyddogol y cyngor, yn rheoli'r cyfleusterau canlynol ar ran y cyngor: Canolfan Fywyd Pen-y-bont ar Ogwr, Canolfan Fywyd Cwm Garw, Canolfan Chwaraeon Maesteg, Pwll Nofio Maesteg, Canolfan Fywyd Cwm Ogwr, Pwll Nofio Pencoed, Pwll Nofio y Pîl a Phwll Nofio Ynysawdre.
Maent ar hyn o bryd yn cynnig tocyn saith diwrnod am ddim, sy'n galluogi unigolion i gael mynediad at ystod o wasanaethau fel chwaraeon raced, campfa, nofio, dosbarthiadau ymarfer corff grŵp, campfa hydro a mwy.
Mae hefyd nifer o gynigion eraill ar gael fel aelodaeth ar bris gostyngol ar gyfer pobl ifanc rhwng 12–24 mlwydd oed, grwpiau ac unigolion sy'n cael budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd fel Credyd Cynhwysol.
Yn ogystal, fel rhan o Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cymru, bydd pobl ifanc dan 17 oed a phobl hŷn dros 60 oed yn cael nofio am ddim yn ystod adegau penodol o'r wythnos. Caiff trigolion eu cynghori i wirio gwefan Halo am ragor o wybodaeth am amseroedd a lleoliadau.
Os oes well gennych chi fynd am daith gerdded hardd, Parc Gwledig Bryngarw yw'r lle delfrydol i chi.
Wedi'i reoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ar y cyd â'r cyngor, mae gan y parc yr holl gyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer diwrnod allan gwych, gan gynnwys ardal bicnic ar gyfer y plant a chaffi sydd newydd ei adnewyddu.
Gyda dros 100 erw o erddi a choetiroedd, gall ymwelwyr fynd am dro ar hyd glan Afon Garw neu ddefnyddio'r llwybr beicio wedi'i ddylunio'n bwrpasol.
Gall trigolion hefyd wella neu gynnal eu hiechyd meddwl drwy ymweld â'u llyfrgell leol. Mae Awen yn rheoli 11 llyfrgell a gwasanaeth Llyfrau ar Olwynion ar ran y cyngor, ac mae ystod o lyfrau a gwasanaethau ar gael ym mhob llyfrgell.
Mae rhagor o wybodaeth am lyfrgelloedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael ar wefan Awen.