Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dathlu prosiect ‘Tackle after Dark’ yn Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Tynnwyd sylw at brosiect arloesol sydd â’r nod o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y fwrdeistref sirol yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2024 ar y 28ain o Dachwedd.  Enillodd y cynllun ‘Tackle after Dark’, prosiect ar y cyd rhwng adran Cymorth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru (HDC), a gefnogir gan Gweilch yn y Gymuned, y wobr ‘Partneriaethau’ yn y seremoni.

Mae ‘Tackle after Dark’ yn ddarpariaeth gwasanaeth ieuenctid symudol sy’n targedu ardaloedd penodol ar amseroedd penodol lle mae’n hysbys fod ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei uchaf.  Gydag ystod o weithwyr proffesiynol medrus yn cymryd rhan, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid y cyngor a staff o dimau Plismona Cymdogaeth Heddlu De Cymru, mae’r cynllun yn cynnig gweithgareddau cynhwysol a grymusol ar gyfer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan.  Er enghraifft, sesiynau chwaraeon, gweithdai sy’n trafod ystod o bynciau fel perthnasoedd iach, diogelwch ar-lein, cyffuriau ac alcohol, ynghyd â sesiynau addysgol eraill.

Diolch i gyfranogiad Ospreys in the Community, mae cyfleoedd rygbi hefyd ar gael.Gweilch yn y Gymuned  Mae’r rhain yn cynnwys rygbi tag, gyda’r ‘Bobl Ifanc yn erbyn HDC’, a thaith am ddim i weld y Gweilch yn chwarae ar gyfer y bobl ifanc sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

Mae’r rhaglen 39 wythnos yn llwyddo i gryfhau’r berthynas waith rhwng gweithwyr ieuenctid y cyngor, HDC, a phartneriaid eraill, i gefnogi’r bobl ifanc drwy fynd i’r afael ag unrhyw broblemau sylfaenol posibl, meithrin hunan-barch, yn ogystal â chynnig arweiniad ynghylch gwneud dewisiadau bywyd cadarnhaol ac osgoi ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol.

Dywedodd Gareth Prosser, Rheolwr Diogelwch Cymunedol, Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol: “Mae’r rhaglen ymgysylltu â’r gymuned yn galluogi pobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a gweithio mewn tîm, meithrin ymdeimlad o les, datblygu cymeriad, gwydnwch, yn ogystal â darparu ymdeimlad o berthyn sydd wedi gweld gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

“Y nod yn y pen draw yw annog pobl ifanc i osgoi ymddygiadau penodol a darparu llwybrau a chyfleoedd a fydd yn eu paratoi ar gyfer heriau’r dyfodol.”

Parhaodd y Sarsiant Dan Parry, sydd hefyd yn rhan o’r cynllun: “Mae’r ymgysylltiad wedi bod yn llwyddiannus, a gyda chyfraniad ychwanegol y tîm o Gweilch yn y Gymuned, rydym wedi llwyddo i ddenu hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc yn eu harddegau i ymgysylltu, gan eu hatal rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Mae Cymorth Ieuenctid  Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael cynnydd yn nifer mynychwyr darpariaethau ieuenctid cymunedol eraill y cyngor ers cyflwyno’r prosiect, ac mae pobl ifanc hefyd wedi gofyn i’r gwaith hwn barhau o fewn eu cymunedau, gan gyfaddef fod y prosiect wedi eu hatal rhag ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. 

Oherwydd canlyniadau cadarnhaol y cynllun, mae Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol hyd at fis Mawrth 2025 fel rhan o Brosiect Sentinel er mwyn parhau â gwaith allgymorth pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Am gyflawniad arbennig! 

Mae’n wych cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2024 fel enghraifft o arfer gorau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth! 

“Mae ‘Tackle after Dark’ yn dangos effeithiolrwydd sefydliadau yn gweithio ar y cyd, yn enwedig pan ddaw i oresgyn rhwystrau i gyrraedd pobl ifanc.

“Mae’r prosiect ar y cyd yn cynnig cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc sy’n aml yn teimlo eu bod yn cael eu hanghofio.

Trwy feithrin perthnasoedd, arweiniad a chymorth ar y cyd, rydym wedi’u galluogi i symud tuag at ddyfodol mwy disglair a chadarnhaol.

“Mae’r wobr hon yn dyst i gyflawniadau anhygoel ac ymrwymiad diflino’r holl dimau sy’n rhan o'r prosiect.  Da iawn bawb!”

Llun (o’r chwith i’r dde): Tom Sloane, Swyddog Rygbi Cymunedol y Gweilch, PCSO Steve Bowen, Nick White, Rheolwr Sefydliad Gweilch yn y Gymuned, Gemma Shore, Uwch Weithiwr Datblygu (BYS - Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr), Sarsiant Dan Parry, PCSO Jesci Hare, a Tanya Hillman, Cydlynydd Ôl-16 NEET (BYS).

Chwilio A i Y