Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dathlu arwyr lleol yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer

 

Cydnabuwyd cyfraniadau rhagorol gan wirfoddolwyr, hyrwyddwyr elusennau, a hoelion wyth eraill cymdogaethau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel enillwyr yng Ngwobrau Dinasyddiaeth y Maer eleni.

Mae’r gwobrau, a drefnwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cydnabod cyflawniadau rhagorol trigolion sydd wedi rhoi eu cymuned ar y map, neu sy’n mynd un cam ymhellach yn rheolaidd i wneud gwahaniaeth.

Ymysg y rhestr lawn o enillwyr mae athro o Ysgol Fabanod Cefn Glas, cadeirydd grŵp cymorth colli babi yn ogystal â sefydliadau cymunedol hanfodol fel Grŵp Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr a’r Newton Buoyant Bluetits.

Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr. Mae’n amlwg eu bod i gyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’w cymunedau lleol, a’r fwrdeistref sirol yn gyffredinol.

Mae’n hynod bwysig bod ein harwyr cudd yn cael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu, ac mae wedi bod yn fraint cwrdd â’r enillwyr a chyflwyno eu gwobrau haeddiannol iawn iddynt.

Hoffwn ddiolch i drigolion am anfon eu henwebiadau. Nid oedd y broses ddethol yn dasg hawdd. Cawsom lu o enwebiadau o unigolion a grwpiau sy’n mynd gam ymhellach er budd eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Yr enillwyr unigol yw:

Bernard Aylward

Mae Bernard wedi’i gydnabod am ei waith hirsefydlog fel ysgrifennydd Sefydliad Glowyr Nantyffyllon, sydd wedi helpu i roi ei gymuned ar y map. 

Mae’r swydd yn un wirfoddol, a gan fod y sefydliad yn elusen gofrestredig, mae Bernard hefyd yn ymddiriedolwr ers peth amser, ac yn rheoli'r adeilad yn unol â rheolau comisiwn yr elusen. Mae’r sefydliad yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol allweddol, fel grwpiau chwarae, dosbarthiadau dawnsio a dosbarthiadau karate. 

Billy Davies

Mae Billy wedi gweithio’n ddiflino fel warden eglwys yng Nghwm Garw, ac mae’n casglu siopa a phresgripsiynau ar gyfer nifer o drigolion hŷn yn rheolaidd, yn ogystal â mynd gam ymhellach i ymweld â nifer o drigolion sy’n byw ar eu pen eu hunain. 

Mae'n helpu i ofalu am eglwys Dewi Sant, ac mae bob amser yn cynnig croeso cynnes i bob ymwelydd. 

Carol Delbridge

Mae Carol wedi gweithio fel Prif Lyfrgellydd Llyfrgell y Pîl ers y 20 mlynedd ddiwethaf. Hoffai trigolion ddiolch i Carol am fynd y tu hwnt i’r gofyn wrth ei gwaith drwy ddefnyddio ei hadnoddau a’i hamser ei hun yn rheolaidd.

Mae Carol yn casglu ac yn danfon llyfrau ar gyfer trigolion bregus. Mae hi hefyd yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac iechyd gwael o fewn y gymuned drwy dreulio amser yn bodloni anghenion trigolion bregus, a galluogi ei staff i wneud yr un peth.

Catherine Mathias

Drwy gydol y pandemig, roedd Catherine yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w chymuned yn Heol-y-Cyw drwy ddanfon bwyd a phresgripsiynau ar gyfer trigolion nad oeddynt yn gallu gadael eu cartrefi am amrywiaeth o resymau. Mae Catherine hefyd yn gwirfoddoli gyda Cadwch Gymru’n Daclus, ac yn codi sbwriel yn rheolaidd ledled ei chymuned, er mwyn sicrhau bod palmentydd yn rhydd rhag sbwriel. 

Christopher Hill

Mae Christopher wedi gweithio gyda gwasanaeth cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers dros 7 mlynedd fel hyfforddwr oedolyn, yn datblygu i wisgo iwnifform ac yn gweithio i gyrraedd rheng sarjant hedfan. 

Mae’n treulio ei amser rhydd yn helpu i hyfforddi a datblygu pobl ifanc. Mae’n cynnal digwyddiadau i godi arian ar gyfer elusennau, ac mae bob amser ar gael i gymryd lluniau o ddigwyddiadau a’u rhannu ar-lein er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Eileen Thomas

Mae Eileen wedi'i chydnabod am ei phortread cadarn o ysbryd cymunedol, lle mae hi’n aelod brwd o Eglwys Sant Paul yn Heol-y-Cyw.

Y llynedd, roedd Eileen yn teimlo ei bod eisiau gwneud rhywbeth i gefnogi pobl o'r Wcráin, felly trefnodd gyngerdd yn Neuadd Lesiant Heol-y-Cyw ar gyfer dros 100 o bobl. Roedd amrywiaeth o berfformwyr, a rhoddodd bob un ohonynt eu hamser am ddim. Codwyd cyfanswm o £1600 ar gyfer yr achos gwerth chweil hwn. 

John McCarthy

Ers dros 25 mlynedd, mae John, cyn-Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi arddangos ei ymrwymiad i’r fwrdeistref sirol drwy wasanaethu fel cynghorydd tref a chymuned, yn ogystal â bod yn aelod o sawl bwrdd, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Gwarchodwyr Coety Wallia, Cyfeillion Capel Salem yn ogystal â gwasanaethu fel llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Pencoed. 

Mae John hefyd wedi helpu ei gymuned leol drwy glirio ceuffosydd wedi’u rhwystro, hebrwng carnifalau cymunedol ac arddangosfeydd tân gwyllt, a chwarae rhan allweddol yng Nghangen Undeb Credyd Pencoed. 

Jeffrey William Davies

Mae Jeffrey wedi gwirfoddoli ei wasanaethau trydanol am ddim er mwyn gosod llu o ddiffibrilwyr allanol ledled y fwrdeistref sirol. 

Mae wedi gosod y dyfeisiau hanfodol hyn mewn ysgolion, cynghorau, canolfannau cymunedol ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg. 

Jessica Sim

Mae Jessica wedi camu i’r adwy fel Cadeirydd Grŵp Cymorth Colli Babi Bro Morgannwg, ac mewn prin saith mis, mae hi wedi ymgymryd â dau ddigwyddiad codi arian er mwyn codi dros £2100 at elusen. 

Mae Jessica wedi gweithio’n ddiflino yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babi (BLAW) i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer BLAW a grŵp cymorth colli babi Bro Morgannwg, Befriender.

Michelle Williams

Mae Michelle yn un o hyrwyddwyr y Gynghrair Iechyd Meddwl Mamolaeth, ac mae hi’n gweithio’n ddiflino yn y gymuned leol i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael ar gyfer mamau newydd, yn ogystal ag unrhyw un arall sy’n ei chael hi’n anodd gyda’u hiechyd meddwl.

Mae hi wedi dioddef o iselder ôl-enedigaeth yn flaenorol, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r pwnc pwysig hwn drwy ymgymryd â chyfweliadau ar y teledu ac ar y radio. Mae Michelle bellach yn gwirfoddoli gyda Chlwb Bechgyn a Genethod Wyndham, ochr yn ochr â gweithio gyda Mental Health Matters Wales er mwyn sefydlu prosiectau fel yr Hwb Dementia ar Stryd Nolton.

Sarah Jones (Unique You) 

Mae Sarah yn rhedeg busnes Ffotograffiaeth a Chlwb Camera Cynhwysol, wedi'i anelu at Bobl Ifanc Niwrowahanol a Niwronodweddiadol a phobl ifanc sydd â galluoedd amrywiol.

Ethos y cwmni yw grymuso pobl ifanc i fod yn nhw eu hunain, ac i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eu helpu i ffynnu, waeth beth meant yn penderfynu ei wneud.

Sonia Thornton

Penderfynodd Sonia, sy’n athrawes yn Ysgol Fabanod Cefn Glas, redeg 5k bob dydd ym mis Chwefror 2022 er mwyn codi arian ar gyfer gosod diffibriliwr ar wal allanol yn yr ysgol. 

Oherwydd ei hymdrechion helaeth, mae’r ddyfais ar gael i staff, disgyblion, a rhieni’r ysgol, yn ogystal â’r gymuned leol. 

 Yr enillwyr grŵp yw:

Ymddiriedolaeth Datblygu Corneli a’r Cyffiniau

Mae Ymddiriedolaeth Datblygu Corneli a’r Cyffiniau’n cynnal cyfleuster cymunedol lleol allweddol yng nghanol Gogledd Corneli, sy’n cefnogi’r gymdogaeth yn gyffredinol. 

Yn ogystal â rhedeg Pantri lleol, mae hefyd yn cynnal siop “Just a Second” sy’n llawn dillad, eitemau ar gyfer y cartref ac eitemau ar gyfer plant a babanod.

Mae’r grŵp hefyd yn trefnu teithiau bysiau ar gyfer rhieni a phlant, sesiynau crefftau ar gyfer plant o bob oed a ffeiriau lleol sy’n hynod boblogaidd, ac sy’n uno’r gymuned yn y ffordd orau bosibl, yn ogystal â chynnig cefnogaeth i fusnesau crefftau bach lleol.

Newton Buoyant Bluetits

Ffurfiwyd y grŵp cymunedol hanfodol hwn yn sgil COVID er mwyn ceisio mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a helpu’r gymuned leol i ddelio â salwch digyffelyb, profedigaethau a nifer mwy o ddigwyddiadau trawmatig. 

Erbyn hyn, mae’r grŵp yn cynnwys dros 1500 o aelodau ac mae’n cynnig sawl budd o ran iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae’r bluetits yn grŵp cynhwysol sydd bob amser yn croesawu pobl i rannu paned a sgwrs ar y llithrfa yn Newton.

Ymwybyddiaeth Hunanladdiad Cwm Ogwr (OVSA)

Nod y grŵp gwirfoddol hwn yw codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, a lleihau’r stigma o gwmpas y pwnc. Cynhelir cyfarfod cyhoeddus unwaith y mis i gasglu syniadau ac adborth gan drigolion, er mwyn teilwra diben y grŵp i fodloni anghenion y gymuned leol.

Chwilio A i Y