Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Datganiad yn dilyn pla o bryfaid tŷ

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, yr aelod lleol dros Betws a’r Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Mae swyddogion iechyd Amgylcheddol o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (SRS) yn parhau gyda'u hymdrechion i ddarganfod ffynhonnell pla o bryfaid tŷ sydd wedi'u canfod gan mwyaf mewn cartrefi yn ardal Betws.

"Mae Swyddogion yn ymweld ag amrywiol leoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn canfod pam mae'r pryfaid - sydd wedi eu hadnabod fel musca domestica, neu bryfaid tŷ cyffredin - yn sydyn wedi dechrau ymddangos mewn niferoedd mawr o fewn y gymuned leol.

“Mae swyddogion yn parhau i gysylltu gyda rheoleiddwyr eraill fel bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem unwaith mae'r ffynhonnell wedi ei chadarnhau."

"Mae ymweliadau wedi bod i unrhyw ffynhonnell bosib o'r pla er mwyn sicrhau nad oes parhad gyda'r cynnydd a/neu arferion a allai fod yn ymestyn y pla cyfredol hwn.

"Mae'r Cynghorydd Hywel Williams, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am SRS, a minnau, yn cael ein briffio'n rheolaidd ar gynnydd yr archwiliad a bydd hyn yn parhau hyd nes i'r sefyllfa gael ei datrys."

Awgrymiadau i’ch helpu i ddelio â’r ‘Musca domestica’ – y pryf tŷ cyffredin:

  • Ceisiwch beidio â gadael llawer o eitemau heb orchudd allan - pethau fel bwyd anifeiliaid anwes, a allai ddenu pryfed tŷ.
  • Cadwch ffrwythau yn yr oergell yn hytrach na mewn powlen - os byddant yn dechrau llwydo, byddant yn denu pryfed.
  • Cofiwch lanhau unrhyw hylif sydd wedi gollwng ar unwaith - hyd yn oed dŵr - gan y bydd yn denu pryfed.
  • Os oes gennych flychau baw ar gyfer anifeiliaid anwes, cofiwch gael gwared ar unrhyw faw cyn gynted â phosib.
  • Rhowch eich gwastraff bwyd mewn bocs gwastraff bwyd neu fin sydd â chaead arno.
  • Gwnewch yn siwr fod caeadau eich biniau sydd y tu allan wedi cau ac, os yw’n bosib, peidiwch â’u gosod yn ymyl drysau neu ffenestri.
  • Gwnewch ddefnydd llawn o’r system ailgylchu yn y cartref, ac os bydd cynhwysydd wedi torri, gofynnwch am un newydd.
  • Peidiwch â gadael drysau na ffenestri ar agor os oes gennych olau ymlaen.
  • Gallwch annog pryfed i fynd allan o ystafell drwy ddiffodd y golau a gadael eich llenni a ffenest ar agor - bydd y pryfed yn mynd allan drwy'r ffenest tuag at olau dydd.
  • Mae siopau lleol yn gwerthu ‘zappers’, papur dal pryfed a chwistrellau mewn ystod o ddewisiadau naturiol ac ecogyfeillgar.
  • Gallwch hefyd greu eich trap eich hun drwy osod powlen o finegr seidr wedi’i gymysgu â mymryn o hylif golchi llestri ar arwyneb sefydlog.
  • Mae rhai arogleuon naturiol yn cadw pryfed i ffwrdd - ceisiwch roi ychydig o olew ewcalyptws ar gadach a’i hongian yn ymyl drws neu ffenest, rhoi mint ar siliau ffenestri cegin, chwistrellu pupur wedi’i gymysgu â dŵr, neu gynnau cannwyll sitronela.

Am ragor o wybodaeth ynghylch delio â phryfed tŷ, edrychwch ar wefan y British Pest Control Association.

Mae’r Gwasanaeth Rheoleiddiol ar y Cyd yn darparu gwasanaethau hanfodol i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r rhain yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach a thrwyddedu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Gwasanaethau Rheoleiddiol ar y Cyd ar wefan y cyngor.

Chwilio A i Y