Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Darparwr gofal maeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhannu rysáit teuluol mewn llyfr coginio sydd wedi'i gefnogi gan ffigyrau adnabyddus

Er mwyn dathlu Pythefnos Gofal Maeth 2024, mae Maethu Cymru wedi lansio llyfr coginio newydd sbon o'r enw Bring something to the table fydd yn cynnwys detholiad cyffrous o rysetiau tynnu dŵr o ddannedd rhywun i ddarllenwyr eu blasu.

Mae Vicky Davies, gofalwr maeth o Ben-y-bont ar Ogwr wedi rhannu ei rysáit teuluol hoff yn y llyfr newydd sy'n cynnwys 20 o rysetiau gan gogyddion enwog, ynghyd â rysetiau gan bobl yn y gymuned maethu.

Mae'r llyfr hefyd yn rhannu profiadau maethu sydd wedi newid bywydau, gan ofalwyr a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal fel ei gilydd mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r angen am i fwy o bobl gymryd y cam o ystyried maethu.

Mae Pythefnos Gofal Maeth yn ymgyrch flynyddol gan The Fostering Network wedi'i anelu at godi proffil maethu a dangos sut y gall dod yn ofalwr maeth newid bywydau ifanc.

Mae ymchwil diweddar gan Maethu Cymru wedi canfod fod pobl yn aml yn peidio â rhoi eu henwau ymlaen i fod yn ofalwr maeth oherwydd nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad 'cywir'.

Yn eu llyfr coginio newydd, mae Maethu Cymru yn tynnu sylw at bethau syml y gall gofalwr eu cynnig – megis y sicrwydd o gael prydau rheolaidd, amser teuluol o amgylch y bwrdd, a chreu hoff fwydydd newydd.

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; Beirniad Young MasterChef, Poppy O’Toole; a'r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu rysetiau. Rhywun arall sy'n cael ei chynnwys yw'r athletwraig Olympaidd a'r ymgyrchydd gofal maeth, Fatima Whitbread, fu mewn gofal ei hun.

Mae cyn-gystadleuydd The Great British Bake-Off Jon Jenkins a'r gomedïwraig Kiri Pritchard- McLean hefyd wedi ychwanegu rysetiau - gan dynnu ar eu profiad personol o fod yn ofalwyr maeth.

Yn bwysicaf oll, mae Vicky Davies wedi rhannu ei rysáit am bwdin Swydd Efrog, sy'n ffefryn mawr gyda'r plant mae hi'n gofalu amdanynt.

Cinio dydd Sul yw'r ffefryn yn ein tŷ ni - mae'n creu anhrefn llwyr, ond mae'n ffefryn mawr.

Mae'r plant wrth eu bodd yn cael eistedd wrth y bwrdd ar gyfer prydau bwyd, lle mae pawb yn rhan o uned deuluol, ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau.

Fe wnaeth un o'r plant ro'n i'n gofalu amdanynt hyd yn oedd ddweud mai dyma oedd y rhan gorau o'i diwrnod pan oedden ni i gyd gyda'n gilydd o amgylch y bwrdd.

Vicky Jones

Mae Vicky yn rhannu cynhwysyn cyfrinachol mae'n ei ychwanegu at ei rysáit pwdin Swydd Efrog, sy'n cael ei ddatgelu yn y llyfr coginio.

Er mwyn lansio'r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur Bywyd a Bwyd, Life Through Food yn cynnal gweithdy coginio ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, er mwyn dysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hanfodol fydd yn ddefnyddiol pan fyddant yn byw'n annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal hefyd wedi bod yn ymwneud llawer gyda datblygu'r llyfr coginio.

Cafodd y llyfr ei ddarlunio gan Sophia Warner, darlunydd o Gymru, ymgyrchydd a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a hi ysgrifennodd ragair ar gyfer y llyfr coginio:

"Pan oeddwn i'n iau, mae gen i atgof clir o fod yn holi fy mam faeth yn dwll ynghylch ble roedd y bwyd roedd hi'n ei ddarparu yn dod, gan fynnu ei fod yn dod o Aberhonddu, oedd yn lle arbennig iawn i mi yn ystod fy mhlentyndod. Rwyf wedi dewis 'Brecon Bolognese' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

"Mae gan rysáit hwn le arbennig iawn yn fy nghalon oherwydd dyma'r pryd cyntaf i mi ei gael pan symudais i mewn i fy nghartref maeth. Wnes i ddigwydd crybwyll bod fy mam naturiol yn arfer ei wneud ac fe wnaeth fy mam faeth ei baratoi i mi gyda chariad. Wrth i mi eistedd o amgylch y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, roedd gen i ymdeimlad o fod yn perthyn, o gynhesrwydd oedd yn gwneud i mi deimlo'n wirioneddol groesawgar."

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Mae Maethu Cymru wedi gosod nod uchelgeisiol o recriwtio dros 800 o deuluoedd newydd erbyn 2026 er mwyn darparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd:

"Bob blwyddyn mae Pythefnos Gofal Maeth yn amlygu'r angen am ofalwyr maeth newydd yn ein bwrdeistref sirol, a does dim byd yn wahanol eleni yn hynny o beth. Gyda chyhoeddi'r llyfr coginio hyfryd yma, y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli darpar ofalwyr maeth i wireddu eu potensial a'r hyn allan nhw ddod at y bwrdd.

"Mae gan lawer ohonom y sgiliau a'r profiad fyddai'n ein gwneud yn ofalwyr maeth perffaith, ac rydym yn gobeithio y bydd y rhwydweithio yr ymgymerir ag o gan Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod y digwyddiad hwn dros gyfnod o bythefnos yn galluogi ein preswylwyr i ddychmygu dyfodol lle gallent hwy faethu person ifanc mewn angen. 

"Mae'r ymgyrch hon hefyd yn gyfle i ni ddathlu ein tîm ymrwymedig o ofalwyr maeth, a diolch o waelod calon iddynt am bopeth maent yn ei wneud i sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu cwrdd, ond, fel maent yn ei ddangos yn ddyddiol, yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn, i greu amgylcheddau diogel a chefnogol, lle gall pobl ifanc ffynnu a phrofi adegau all newid eu bywydau

"Hoffem wahodd unigolion yn ein cymunedau lleol i archwilio'r posibiliadau cyffrous o faethu plant a phobl ifanc gyda Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr."

Bydd y llyfr coginio yn cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ar hyd a lled Cymru a gellir lawrlwytho fersiwn digidol o: maethucymru.llyw.cymru/bringsomethingtothetable.

I ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru ewch i maethucymru.llyw.cymru.

Chwilio A i Y