Darpariaeth Gofal Plant Dechrau’n Deg yn Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi derbyn pedair sgôr ‘rhagorol’ mewn arolwg diweddar.
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 12 Ebrill 2024
Yn un o bump sefydliad Dechrau’n Deg sydd ar gael i rieni yn ardal Mynydd Cynffig a'r Pîl, mae’r ddarpariaeth gofal plant yn Ysgol Gynradd Afon y Felin wedi ennill pedair sgôr ragorol yn eu harolwg Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW).
Mae’r sefydliad yn rhan o gyflwyniad graddol darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg ledled y fwrdeistref sirol, gyda Cefn Cribwr, Corneli, Mynydd Cynffig a’r Pîl oll yn elwa o’r cynllun , a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ers dechrau'r flwyddyn.
Mae’r rhaglen ehangu gofal plant Dechrau’n Deg yn cynnig 12.5 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir, am 39 wythnos o’r flwyddyn, gyda’r dewis o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.
Darperir y cyfleuster gofal plant sydd ar gael yn Ysgol Gynradd Afon y Felin mewn partneriaeth â’r darparwr a gomisiynwyd, Action for Children. Yn sgil eu llwyddiant diweddar yn yr arolwg, dywedodd Jenna Gow, arweinydd y sefydliad: “Mae pawb ohonom yn falch iawn o ganlyniad ein harolwg, rwy’n ffodus fy mod yn gweithio gyda thîm o ymarferwyr profiadol a gwybodus sy’n gweld gwerth chwarae plant ac yn gosod y plentyn yn ganolog i bopeth a wnânt bob amser.
“Er ein bod yn nerfus ar ddechrau'r arolwg, roeddem yn hyderus iawn ynghylch ein gwaith. Mae cael ethos mor sefydledig a gwybod y rheswm pam ein bod yn gwneud popeth rydym yn ei wneud yn sicr yn helpu i sicrhau ein bod yn creu amgylchedd sy’n cefnogi datblygiad a llesiant plant.”
Mae rhieni sydd â phlant yn mynychu’r ddarpariaeth yn Ysgol Gynradd Afon y Felin yn canmol y plant yno. Dywedodd un rhiant: ”Ar y diwrnod y daeth fy merch a minnau i ymweld â’r sefydliad cawsom groeso cynnes gan y rheolwr a’r tîm. Roedd y staff yn arbennig o groesawgar a gwybodus. Roedd yr amgylchedd yn ddengar ac yn groesawgar - wedi’i sefydlu i ennyn chwilfrydedd a chwarae penagored. Roedd y plant yn chwarae’n hapus mewn gorsafoedd amrywiol ac roedd yr awyrgylch yn hamddenol.
“Pan ddaeth yr amser i ni adael roedd fy mhlentyn eisiau aros, ac yn hytrach na chael ein hanfon oddi yno, cafodd fy merch aros ar gyfer y sesiwn tra roeddwn i’n llenwi’r ffurflenni angenrheidiol. Mae fy merch wirioneddol wrth ei bodd yn mynd yno ac mae hi’n siarad am ‘ei hysgol hi’ adref o hyd. Nid oes gennyf ond canmoliaeth uchel i’r cyfleuster a’r staff.”
Am wych yw gweld ein cymuned yn cael mynediad am ddim i ddarpariaeth gofal plant o ansawdd mor wych. Mae’n addawol y bydd y gefnogaeth hon, a gynigir i blant o oedran mor ifanc, yn cael effaith gadarnhaol ar eu datblygiad.
Dylai staff darpariaeth Ysgol Gynradd Afon y Felin fod yn hynod falch o’r anrhydedd maent wedi ei dderbyn yn ystod yr arolwg CIW diweddar. Mae’n wych fod eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u harweiniad ysbrydoledig wedi cael eu cydnabod. Da iawn, bawb!
Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Gall rhieni wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y rhaglen Dechrau’n Deg ar-lein gan ddefnyddio’r gwiriwr cod post newydd.