Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytuno i wneud 'newidiadau yn anfoddog' i gludiant dysgwyr yn wyneb problemau ariannu

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i wneud 'newidiadau yn anfoddog'  i wasanaethau cludiant dysgwyr yn wyneb costau cynyddol, cyllidebau is a'r angen i arbed arian ar frys.

Gyda chostau yn codi o £6m yn 2020-21 i £10.4m erbyn 2023-24 a gorwariant tybiedig o £1.2m yn y flwyddyn ariannol bresennol oherwydd galw cynyddol, mae'r cyngor wedi dweud ei bod bellach yn amhosib cynnig yr hyn a oedd yn flenorol yn un o'r lefelau mwyaf hael o ddarpariaeth cludiant i ddysgwyr yng Nghymru.

O ganlyniad, gan ddechrau ym mis Medi 2025, mae'r Cabinet wedi cytuno ar wneud y newidiadau canlynol:

 

  • Lle mae llwybr cerdded diogel wedi'i nodi, bydd y pellteroedd cymwys ar gyfer cludiant ysgol yn newid i'r trothwy statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, sef 2 filltir ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd, a 3 milltir ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd.
  • Yn y dyfodol, ni fydd disgyblion sydd wedi bod yn gymwys i dderbyn cludiant ysgol am ddim a drosglwyddwyd gan frawd neu chwaer hŷn (o dan y pellteroedd cymwys blaenorol o 1.5 milltir ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd a 2 filltir ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd) bellach â'r hawl i dderbyn yr un ddarpariaeth.
  • Ni fydd cludiant am ddim bellach ar gael i ddisgyblion meithrin a dysgwyr ôl-16, ond bydd yn parhau ar gyfer y rhai sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd sy'n byw y tu hwnt i'r pellteroedd cymwys.

 

Dewisodd y Cabinet ohirio cynnig pellach - i gynnig 'cyllidebau cludiant personol' i rieni a gofalwyr disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer gwneud eu trefniadau eu hunain i gludo plant i'r ysgol - er mwyn galluogi rhagor o waith ymchwil.

Rydym wedi rhybuddio'n flaenorol, ar ôl 14 mlynedd yn olynol o geisio reoli adnoddau sy'n prinhau yn ofalus, ac o orfod ymdopi gyda chwtogiad cyffredinol o £88.4m yn ein cyllid, bod y cyngor wedi bod yn prysur ddynesu at bwynt lle nad yw hi'n mynd i fod yn bosib arbed arian wrth amddiffyn pobl rhag teimlo effaith lawn y toriadau cynyddol sylweddol ar yr un pryd.

Yn anffodus, mae'r pwynt hwnnw bellach wedi cyrraedd, ac mae cludiant i ddysgwyr yn un o'r meysydd sydd wedi'u heffeithio. Er nad oes yr un ohonom eisiau cwtogi gwasanaeth o'r fath, y gwir amdani yw na allwn bellach fforddio ei gynnig ar y lefel y mae pobl wedi dod yn gyfarwydd â hi.

"Y realiti y mae'n rhaid i ni ei wynebu yw bod pob cyngor yn y DU yn profi anawsterau tebyg ac yn anffodus, hyd nes y gellir datrys yr argyfwng ariannu cenedlaethol bydd gwneud newidiadau pellach yn anfoddog i wasanaethau cyngor poblogaidd fel hyn yn anochel.

- Dywedodd Arweinydd y Cyngor John Spanswick

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: "Cyn gwneud y penderfyniad hwn, buom ymgynghori'n helaeth er mwyn deall gwir effaith y cynnig yn llawn, ac rwyf eisiau diolch i bawb a gymerodd ran yn y broses honno.

 

"Mae hwn yn amlwg yn fater y mae gan bobl farnau cryf yn ei gylch. Rwy'n gwerthfawrogi dyfnder y teimlad sydd wedi'i fynegi'n llwyr, ac rwy'n rhannu pryder y cyhoedd.

"Does neb eisiau cwtogi gwasanaeth fel hwn sydd mor boblogaidd a phrysur, ond o ystyried graddfa'r heriau ariannol rydym ni, fel pob cyngor arall, yn eu hwynebu, mae gennym hefyd gyfrifoldeb i wynebu realiti'r sefyllfa, ac i ddeall bod y newidiadau hyn yn cael eu hannog gan yr hyn sy'n fforddiadwy ac yn angenrheidiol.

"Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad i aelodau o'r pwyllgor Craffu y byddaf, fel yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y portffolio addysg, yn monitro traweffaith y penderfyniad hwn ar blant, pobl ifanc, teuluoedd, a'r gymuned ehangach, a byddaf yn ei adolygu'n rheolaidd ochr yn ochr â thoriadau eraill yn y gyllideb a wnaed yn anfoddog i'r gyllideb.

"Yn y cyfamser, gallaf eich sicrhau ein bod yn parhau i fod â'n ffocws yn gadarn ar wneud popeth o fewn ein gallu, gyda'r adnoddau sydd gennym, i gefnogi ein dysgwyr ifanc yn ystod y cyfnod heriol hwn."

Chwilio A i Y