Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytuno ar Gynllun Gostwng y Dreth Gyngor 2023-2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-2024, sy'n cynnwys elfen ddewisol er mwyn sicrhau bod trigolion cymwys yn cael cymaint o gymorth â phosibl.

Mae gostyngiadau'r dreth gyngor yn cynnig cymorth i unigolion sydd ar incwm isel, sy'n gymwys i dalu'r dreth gymwys. Mae trigolion, sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau fel hyn, yn cael eu hannog i gysylltu â'r cyngor am asesiad i weld a ydynt yn gymwys am unrhyw gymorth.

Mae'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi'i ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, ac mae gofyn i awdurdodau lleol gynnwys sawl elfen ofynnol ac i fabwysiadu unrhyw agweddau dewisol erbyn 31 Ionawr 2023.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o newidiadau sylweddol i'r elfennau gofynnol, ac yn ddibynnol ar amgylchiadau unigolion, gall trigolion cymwys hawlio 100% o ostyngiad y dreth gyngor o hyd. Bydd y cynllun newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.

Mae newidiadau Llywodraeth Cymru'n cynnwys:

  • Diogelwch ar gyfer lletywyr sy'n rhan o Gynllun Cartrefi i Wcráin.
  • Mae pobl o Wcráin bellach yn gymwys am ostyngiad y dreth gyngor os ydynt yn bodloni'r meini prawf.
  • Nid yw dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), sydd bellach yn destun rheoli mewnfudo, yn gymwys ar gyfer y cynllun mwyach.

Mae'r cyngor hefyd wedi cytuno i gynnwys elfen ddewisol i'w Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a fydd yn gweld Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel yn cael eu diystyru wrth gyfrifo hawl i ostyngiadau'r dreth gyngor. Disgwylir i hyn gostio tua £7,000 i'r cyngor.

Rwy'n croesawu cymeradwyo'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2023-2024, ac mae'n galonogol bod y lefel uchaf o gefnogaeth yn parhau i fod yn 100% i hawlwyr cymwys, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus.

Hoffwn atgoffa trigolion bod y cyngor yma i'ch helpu. Os oes unrhyw un yn ei chael hi'n anodd talu ei filiau'r dreth gyngor, dylech gysylltu â'r cyngor i weld a ydynt yn gymwys am unrhyw gymorth.

Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:

Further information on Council tax reduction is available on the council’s website and residents can also make an application online.

Chwilio A i Y