Cytundeb tir newydd Llywodraeth Cymru yn datgloi 'dyfodol uchelgeisiol' i Borthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 31 Mawrth 2023
Symudodd cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i adfywio glannau Porthcawl gam yn nes heddiw wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau ei bod wedi prynu darn allweddol o dir.
Heddiw (dydd Gwener 31 Mawrth), cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau meddiant lleiniau hanfodol o dir o fewn safle 20 hectar sy’n ganolog i gynlluniau adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y tir, sydd wedi’i leoli ym Mae Tywodlyd, bellach yn cael ei ddefnyddio fel rhan o ddatblygiad cyffrous, aml-ddefnydd, sy’n cynnwys tai carbon isel (y bydd hyd at hanner ohonynt yn fforddiadwy) a chyfleoedd masnachol, manwerthu a hamdden newydd sbon er budd ymwelwyr a thrigolion.
Mae'r gwerthiant yn cynnwys y buddiant rhydd-ddaliadol yn safle Parc Adloniant Traeth Coney a'r buddiant lesddaliadol mewn rhan gyfagos o dir a adnabyddir yn lleol fel 'parc yr anghenfil' gan ei fod yn arfer cael ei ddefnyddio i arddangos cerfluniau o ddeinosoriaid.
Gyda’r ddau safle bellach wedi’u datgloi ar gyfer datblygiad newydd sylweddol, bydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio mewn partneriaeth i adfywio’r ardal yn unol â'r Cynllun Datblygu Lleol a Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl.
Fel rhan o’r cynlluniau newydd, uchelgeisiol, ar gyfer yr ardal, bydd Parc Griffin yn dyblu mewn maint. Bydd mynediad at y traeth yn gwella, a bydd cyfleusterau masnach, busnes ac ymwelwyr newydd yn cael eu cyflwyno, ynghyd ag ysgol gynradd newydd a thua 900 o dai newydd, mawr eu hangen.
Mae’r cynlluniau ar gyfer yr ardal, sy’n tynnu ar adborth ymgynghoriad cymunedol diweddar a oedd yn gofyn i bobl leol pa fath o gyfleusterau maent eisiau eu gweld ym Mhorthcawl, gan gynnwys man agored sylweddol gwell i drigolion ac ymwelwyr ei mwynhau. Mae hwn yn ychwanegol at barc glan traeth 200 metr sydd eisoes wedi'i gynllunio fel rhan o’r datblygiad Llyn Halen cyfagos.
Fel rhan o’r cytundeb, bydd y parc adloniant yn parhau i weithredu am hyd at dair blynedd, ac mae disgwyl i waith ddechrau ar y safle yn fuan wedyn.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r rhain yn gynlluniau cyffrous ar gyfer Porthcawl, ac rwy’n falch eu bod yn gallu datblygu er budd cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol. Gall Porthcawl gynnig cyfle unigryw i gynnig cartrefi fforddiadwy mewn lleoliad glan traeth deniadol.
‘Rwyf bellach yn edrych ymlaen at gyflwyno’r cyfle hwn ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gyda’n gilydd, gallwn adfywio ardal y glannau, a gwneud y dref yn lle hyd yn oed gwell i fyw ac ymweld â hi.”
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Mae’r symud hwn yn arwydd sylweddol o hyder ym Mhorthcawl ac yn cynrychioli buddsoddiad hynod sylweddol gan Lywodraeth Cymru sy’n cydnabod pwysigrwydd a photensial ardal.
Drwy ddatgloi a hwyluso caffaeliad y tir hwn, yn y bôn, mae Llywodraeth Cymru wedi galluogi’r cyngor i ganolbwyntio mwy ar ei adnoddau ar ôl manteisio i’r eithaf ar fuddion adfywio. O ganlyniad, byddwn yn cynyddu nifer y tai fforddiadwy fydd ar gael fel rhan o’r prosiect hwn, a diogelu ansawdd uwch nag oedd yn bosibl yn flaenorol.
Rydym ar ben ein digon bod Llywodraeth Cymru wedi arddangos yr arwydd hwn o ffydd yn ein cynlluniau ar gyfer Porthcawl, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio mewn partneriaeth agos er mwyn cyflwyno adfywiad cynaliadwy, ansawdd uwch, hir sefydlog, a fydd o fudd i ymwelwyr yn ogystal â thrigolion.
Dywedodd Sarah Murphy, Aelod Seneddol Pen-y-bont ar Ogwr: “Mae’r tir a brynwyd ym Mae Tywodlyd yn cynnig cyfle unigryw i Borthcawl.
“Rwyf mor falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu datgloi potensial y safle hwn, drwy gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflawni’r cynlluniau adfywio ar gyfer ardal y glannau yn ogystal â chyflwyno cartrefi fforddiadwy a chymdeithasol mawr eu hangen.”
Dywedodd Pat Evans, o Barc Adloniant Traeth Coney: “Mae cenedlaethau o’n teulu wedi byw a gweithio ochr yn ochr â’i gilydd yma ar Draeth Coney ers dros 100 o flynyddoedd. Byddwn bob amser yn falch o’n treftadaeth sioe a’r atgofion rydym wedi’u creu ar gyfer ein holl gwsmeriaid sydd wedi ymweld â ni ac sydd wedi rhannu ein brwdfrydedd dros ‘hwyl y ffair' a’r etifeddiaeth mae Traeth Coney yn ei adael.
"Rydym yn hyderus yng ngallu Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflawni uchelgeisiau'r gymuned wrth i ni symud i'r cyfnod newydd hwn, ac roeddem yn falch o gytuno i barhau i weithredu Traeth Coney am ychydig flynyddoedd eto er mwyn rhoi parhad i'r dref cyn i'r gwaith ailddatblygu ddechrau. Boed i Borthcawl barhau i ffynnu.”