Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau diwygiedig Pafiliwn y Grand yn cael eu cymeradwyo

Cafodd cynlluniau diwygiedig ar gyfer ailddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl eu cymeradwyo’n unfrydol yr wythnos hon gan bwyllgor rheoli datblygiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae hyn yn golygu y gall y gwaith paratoi i symud ymlaen gyda’r gwaith o ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd II fynd rhagddo nawr.

Cafodd yr adeilad eiconig gyllid o £18m drwy raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i ailddatblygu a gwarchod y tirnod yn dilyn cais llwyddiannus gan y cyngor a’i bartner, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Yn dilyn proses ymgynghori cyhoeddus hirfaith, mae’r cynlluniau a roddwyd gerbron y pwyllgor cynllunio ddoe, yn cynnwys cynnal gwaith cadwraeth ac atgyweirio ar rai o nodweddion Art Deco eiconig yr adeilad gan gynnwys y tŵr cloc a’r ffenestri lliw, ochr yn ochr ag estyniadau newydd yn cynnwys pafiliwn ben to gwydr gyda golygfeydd tuag at Fôr Hafren, lifft i ymwelwyr, awditoriwm, oriel, cyfleusterau toiled ac ardaloedd cefn tŷ ategol.

Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gwaith adfer ystyriol o do cromennog gwreiddiol yr adeilad, gydag insiwleiddiad newydd, a’r ceiliog tywydd gwreiddiol ar ffurf forol unigryw, yn cael ei ailosod.

Mae hyn yn newyddion gwych i Bafiliwn y Grand, cymuned Porthcawl a’r fwrdeistref sirol ehangach.

Mae ein cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid y lleoliad celfyddydau poblogaidd hwn yn fan diwylliannol a chyfoes gam yn nes erbyn hyn.

Y weledigaeth yw rhoi bywyd newydd i’r adeilad hanesyddol hwn, gan ei wneud yn fwy deniadol dros sawl cenhedlaeth a sicrhau bod celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ein bwrdeistref sirol yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Ategodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: “Rydym yn hynod falch bod caniatâd cynllunio wedi’i roi i Bafiliwn y Grand. Mae hyn yn nodi’r cyntaf o sawl carreg filltir arwyddocaol mewn prosiect y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohono.

“Rwy’n arbennig o falch ein bod wedi gallu ymgorffori’r adborth gwerthfawr a dderbyniom gan drigolion lleol yn ystod ein sesiynau ymgysylltu i’n cynlluniau ailddatblygu. Gyda’n gilydd, rydym wedi llwyddo i ddargadw gwir hanfod y cysyniad dylunio gwreiddiol, sy’n cynnwys gwelliannau mawr eu hangen o ran hygyrchedd, theatr stiwdio newydd sbon a phafiliwn ben to cyffrous; gan ddiogelu treftadaeth gyfoethog a dyfodol y theatr boblogaidd hon.”

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn parhau i ddifyrru cynulleidfaoedd yn ystod y cyfnod ailddatblygu gyda rhaglen o ddigwyddiadau ‘Pafiliwn dros dro’ yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr, Porthcawl ac mewn lleoliadau cymunedol eraill. Bydd y digwyddiadau misol hyn yn cynnwys jazz, nosweithiau comedi, dawns de, sinema, theatr amser cinio a sioeau teuluol.

Ewch i www.awenboxoffice.com neu dilynwch Bafiliwn y Grand ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Chwilio A i Y