Cynllun pum mlynedd newydd y Cyngor yn galw ar bobl leol i ‘gyflawni gyda’i gilydd’
Poster information
Posted on: Dydd Llun 24 Ebrill 2023
Mae Cynllun Corfforaethol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2023-28 yn arddangos dull newydd a ffres ar gyfer amlinellu sut mae’r awdurdod yn bwriadu cynnig gwasanaethau hanfodol, gweithio ochr yn ochr â phartneriaid a phobl leol, ac ymgymryd â’i fusnes dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r cynllun, ‘Cyflawni gyda'n Gilydd’, wedi’i gynllunio’n benodol i fod yn fwy hygyrch ac yn haws i bobl ymgysylltu ag ef.
Mae wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio adborth gan drigolion o bob oed a chefndir, defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau cyngor, aelodau etholedig, sefydliadau partner, awdurdodau lleol eraill, a mwy.
Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysicach nag erioed inni osod blaenoriaethau, a llunio cynllun sy’n nodi sut rydym yn bwriadu bodloni’r blaenoriaethau hynny. Mae’r pandemig Covid-19 wedi gorfodi’r holl sefydliadau i ail-ystyried eu ffordd o weithio a chynnig gwasanaethau yn y dyfodol, yn enwedig wrth wynebu heriau cyfoes, fel yr argyfwng Costau Byw parhaus mor fuan ar ôl wynebu dros ddegawd o fesurau darbodus.
Mae’r cynllun corfforaethol yn amlinellu pa swyddogaethau mae cyngor lleol yn ei gynnig, sut rydym yn cael ein hariannu a sut rydym yn bwriadu gwario arian, a beth fydd ein nodau ac amcanion dros y bum mlynedd nesaf. Rydym wedi cyflwyno’r holl wybodaeth hon mewn arddull hawdd ei ddilyn gan ein bod eisiau i bobl a phartneriaid gydweithio’n agos gyda ni.
Dyma pam mai enw’r cynllun yw ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, gan ein bod eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael dweud eu dweud wrth lunio a llywio cyfeiriad gwasanaethau’r cyngor dros y bum mlynedd nesaf a thu hwnt. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae yn llwyddiant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - mae’r cynllun hwn yn nodi sut allwn ni gyflawni hynny, a meithrin gwell dyfodol ar gyfer pawb.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Wrth i’n hen gynllun ddod i ben y mis hwn, rydym wedi penderfynu defnyddio hwn fel cyfle i ail-ystyried ein hamcanion a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfredol, wrth gynnal cysylltiadau clir gyda gofynion Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Er mwyn cyflawni hyn a chyflwyno cynllun corfforaethol newydd sy’n gallu ein harwain hyd at 2028, rydym wedi ymgymryd â chryn dipyn o waith ymgynghori ac ymchwil, ac wedi adolygu ein blaenoriaethau blaenorol a chyfredol, ynghyd â blaenoriaethau ein hasiantaethau partner ar lefel leol a chenedlaethol.
Rydym wedi ymgysylltu’n sylweddol â thrigolion lleol er mwyn sicrhau bod y cynllun newydd yn adlewyrchu eu hanghenion a’u dyheadau, a'r hyn sydd ei angen ar y cyngor i fodloni gofynion a heriau’r bum mlynedd nesaf. Rwy’n credu ein bod wedi cyflawni hyn, a bod y Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2023-28 yn cynnig sail glir, wybodus a pherthnasol i ni ar gyfer sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnig gwasanaethau hanfodol wrth fodloni’r llu o heriau rydym yn eu hwynebu.
Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn ymgymryd â gwaith cyhoeddusrwydd ychwanegol er mwyn pwysleisio gwahanol agweddau ar y cynllun, gan gynnwys ymgyrch ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Prif Weithredwr Mark Shephard