Cynllun Metro Plus Porthcawl yn mynd rhagddo
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 01 Medi 2023
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar gyfer cyfleuster bws o’r radd flaenaf, sydd wrth galon ardal adfywio Porthcawl yn ogystal â maes parcio Portway and Salt Lake, fis diwethaf.
Bydd y prosiect Metro Plus yn rhan o raglen Metro Plus ehangach, sy’n anelu at wella cysylltiadau cludiant cyhoeddus ar draws Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCR) yn ne ddwyrain Cymru.
Bydd y cyfleuster bws newydd yn cynnwys pedwar bae, adeilad gorsaf dan orchudd, lle i giosg, yn ogystal â gwelliannau amgylcheddol amrywiol, yn cynnwys ‘to gwyrdd’, gardd law, ardal eistedd y tu allan, a gwaith priffyrdd cysylltiedig.
Mae’r contractwyr ar gyfer y prosiect eisoes yn sefydlu cysylltiadau â’r gymuned. Mae’r cwmni wedi cysylltu ag ysgolion a cholegau lleol, gyda’r amcan o gyflawni ‘Addysg a STEM’ o fis Medi. Mae addysg Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn ymwneud ag amlygiad i bwnc STEM, gyda dysgu bywyd go iawn, ble mae’r dysgwyr yn gallu defnyddio eu gwybodaeth i ddatrys problemau bywyd go iawn.
Dywedodd Rob O’ Dwyer, Pennaeth Seilwaith yn CCR: “Mae Prifddinas- Ranbarth Caerdydd wrth eu boddau yn cydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y prosiect cludiant cyffrous hwn. Mae’r prosiect hwn yn rhan o raglen Metro Plus gwerth £50m wedi’i dylunio i gefnogi creu system cludiant integredig, a ariannwyd drwy Raglen Bargen y Ddinas mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i drawsnewid y modd y mae teithwyr yn teithio ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr a darparu cyfleusterau sydd wir eu hangen a fydd yn arwain at well hygyrchedd at gludiant cyhoeddus ar gyfer holl deithwyr ar draws a rhwng bob ardal o fewn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.
“Mae hwn hefyd yn brosiect hanfodol mewn ymateb i’n hymrwymiadau argyfwng hinsawdd ac yn gweithio tuag at isadeiledd teithio cynaliadwy. Rydym yn sicr yn helpu i gysylltu unigolion yn well ar draws y rhanbarth, a chyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd ar gyfer ein cymunedau”.
Amgylchedd: “Rydym yn hynod o gyffrous am yr hyn y bydd menter Metro Plus yn ei gynnig i Borthcawl. Mae’n addo cynnig lle croesawgar, modern sy’n anelu at annog pobl leol, yn ogystal ag ymwelwyr i Borthcawl, i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.
Drwy wella cysylltiadau cludiant drwy’r cynllun Metro Plus, gobeithiwn y bydd unigolion eisiau manteisio ar hyn, a gwneud y mwyaf o’r hygyrchedd newydd i ardaloedd ar draws de ddwyrain Cymru. Drwy wneud hynny, byddwn yn hyrwyddo cynaliadwyedd a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd presennol, yn ogystal â chyfrannu at ein targed carbon sero net.
Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid ar gyfer y cynllun hwn, a ddarparwyd gan gronfa Metro Plus Bargen Dinas Ranbarthol Prifddinas Caerdydd, Cronfa Cludiant Lleol Llywodraeth Cymru, a chyllideb Adfywio Porthcawl y Cyngor ei hun - gan ein caniatau i wireddu’r weledigaeth hon.
Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd