Cynllun Cymorth Tanwydd yn dod i ben ddiwedd y mis
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Gyda thros 15,000 o daliadau wedi’u gwneud i gartrefi hyd yn hyn, mae Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru wedi bod ar waith ers y pedwar mis diwethaf, ac ar fin cau ar 28 Chwefror.
Mae’n bwysig bod pob preswyliwr cymwys yn derbyn yr arian sydd ar gael iddynt, ac nad ydynt yn colli’r cyfle hwn.
Mae’r cynllun yn ychwanegol i’r ad-daliad Bil Ynni sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU, a’r Taliad Tanwydd Gaeaf a delir fel arfer i bensiynwyr.
Mae’r cyngor wedi cysylltu â phreswylwyr cymwys drwy’r post, gyda cheisiadau ar gael ar-lein drwy gyfleuster ‘Fy Nghyfrif’ y cyngor. Er hynny, os ydych yn credu efallai fod eich aelwyd yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y grant, ac nad ydych wedi ymgeisio eto, darllenwch y rhestr gynhwysfawr o fudd-daliadau cymhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys budd-daliadau anabledd megis Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl, a Thaliad Annibyniaeth Personol, a llawer mwy.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y meini prawf cymhwysedd, yn ogystal â rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y cyfle i elwa o’r cynllun hwn yn dod i ben yn fuan, ac rydym yn annog preswylwyr cymwys i ymgeisio am y cyllid i sicrhau nad ydynt yn methu’r cyfle. Mae’n bwysig eu bod yn manteisio ar y gefnogaeth ariannol a gynigir gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r ymateb wedi bod yn wych hyd yma, gyda thros £3m wedi’i dyrannu ar draws y gymuned i gynorthwyo gydag unrhyw faich ariannol. Rydym yn awyddus i sicrhau y bydd pawb sy’n gymwys yn elwa ohono.
Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau