Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun bwyd cymunedol Ysgol Gynradd Cwmfelin yn mynd o nerth i nerth

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin yn dathlu llwyddiant ei menter fwyd ‘Big Bocs Bwyd’ (BBB),  a gafodd ei chydnabod gan Estyn fel model o arfer da, sy'n estyn cymorth i'r gymuned ehangach, gyda dysgwyr yn yr ysgol a thu allan iddi yn elwa.

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelin, a agorodd y BBB ym mis Medi 2021 â chynnyrch o FareShare ac archfarchnadoedd lleol, yn cynnig cyflenwadau bwyd i rieni ar sail 'talu fel y gallwch chi', deirgwaith yr wythnos.  Mae'n cael ei gynnal gan staff a gwirfoddolwr sy'n rhiant, ac mae'r plant yn gyfrifol am gynnal a chadw'r BBB, yn cynnwys glanhau, ail stocio a gwirio tymheredd y 'bocs'.

Mae'r ysgol wedi defnyddio'r fenter yn greadigol, gan integreiddio'r prosiect BBB i gwricwlwm yr ysgol gyda'r cynllun yn darparu cyflenwad diddiwedd o gyfleoedd dysgu ystyrlon sy'n cael eu croesawu'n llwyr gan y disgyblion.  Dywedodd Joanne Edwards, y Pennaeth Dros Dro: "Rydym yn gallu cynnig mwy o weithgareddau sy'n gysylltiedig â thyfu, paratoi a choginio bwyd i'r disgyblion, gan ddysgu sgiliau bywyd gwerthfawr iddynt. Mae'r prosiect wedi creu cyffro ynghylch coginio a blasu ymysg y plant; mae agwedd disgyblion wedi newid, wrth iddynt ymwneud fwy â choginio gyda'u teuluoedd gartref.

"Rwy'n hynod o falch bod Ysgol Gynradd Cwmfelin wedi dod yn rhan o'r fenter wych hon. Nid yn unig ei bod yn cynnig amrywiaeth o brofiadau dysgu go iawn i'n disgyblion, ond mae hefyd yn cynorthwyo ein cymuned leol. Mae'r plant hefyd yn datblygu cymhwysedd mewn ystod eang o feysydd, megis llythrennedd ariannol, technoleg bwyd a chynaliadwyedd."

Dywedodd un rhiant: "Rwyf wrth fy modd yn mynd i'r BBB gyda fy merch bob wythnos. Mae amrywiaeth o fwyd ar gael bob amser, ac mae'n ffordd wych o gyflwyno cynnyrch nad yw fy nheulu wedi eu profi o'r blaen. Mae hefyd yn eu haddysgu ynghylch arian a lleihau gwastraff bwyd!"

Dywedodd Lloyd, sy'n ddisgybl yn yr ysgol: "Mae'r BBB yn system dda iawn sy'n helpu teuluoedd sy'n mynd drwy gyfnodau anodd. Rwy'n ymweld yn aml gyda fy Nhad i gasglu cynhwysion fel y gallwn goginio gyda'n gilydd gartref."

Mae gan yr ysgol gynlluniau i ddatblygu'r cynllun ymhellach drwy gyflwyno gardd gymunedol newydd.  Bydd hon yn cynnig lle tawel i gefnogi iechyd meddwl a llesiant, yn ogystal ag ardal cegin awyr agored fydd yn cynnal sesiynau coginio iach i rieni gan ddefnyddio cynnyrch y BBB. Ychwanegodd Joanne Edwards, y Pennaeth Dros Dro: "Gyda'n cegin a'n gardd gymunedol newydd yn cael eu paratoi, mae ein BBB yn mynd o nerth i nerth, ac rydym yn edrych ymlaen at weld beth fydd gan y dyfodol i'w gynnig."

Dyma ffordd arloesol o wneud y gorau o gyfleoedd dysgu ac addysgu a gynigir gan y prosiect BBB ar draws yr ysgol gyfan.

Gyda disgyblion yn cymryd perchnogaeth o'r 'bocs', maent yn dysgu arwyddocâd gwaith ystyrlon ac mae'r profiadau dysgu sy'n codi o'r BBB yn eu hannog i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol a medrus, heb sôn am fod yn unigolion iach a hyderus. Mae'r fenter ysgol gyfan wedi cael effaith eithriadol o gadarnhaol ar ddysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol. Da iawn i bawb a fu’n rhan ohoni!

Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl ifanc Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y