Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cymryd perchnogaeth o geisiadau caniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig Gradd II

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am Ddirprwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig, gan ganiatáu i’r sefydliad ymdrin â cheisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig  Gradd ll, heb fod angen cyfeirio at Weinidogion Cymru.

Ar ôl ymgysylltu â Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a chytuno i rai amodau penodol, dyfarnwyd dirprwyaeth i'r cyngor o 1 Chwefror 2023 ymlaen.

Mae’n gymaint o fraint i gael Dirprwyo Caniatâd Adeilad Rhestredig gan wasanaeth uchel ei barch Llywodraeth Cymru, Cadw.

Ar ôl y newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad a Chynllun Dirprwyo Swyddogion, sy’n deillio o’n cyfrifoldeb newydd, gallwn symud ymlaen i ymdrin â cheisiadau caniatâd adeiladu, heb orfod cynnwys Gweinidogion Cymru.

Bydd yr Uwch Swyddog Cadwraeth a Dylunio yn goruchwylio unrhyw geisiadau, gan gynnig cymorth a chyngor gwerthfawr gydag achosion.

Rydym yn edrych ymlaen at gael ymreolaeth yn y maes hwn, wrth gyflawni’r cyfrifoldeb i amddiffyn a gwella’r amgylchedd hanesyddol.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y