Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn cymryd camau i wrthsefyll straeon 'hollol anghywir' am safle hydrogen

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog trigolion i gael gafael ar eu ffeithiau yn uniongyrchol gan yr arbenigwyr, ar ôl gweld straeon 'hollol anghywir' ar gyfryngau cymdeithasol am effaith safle ynni gwyrdd newydd sydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Brynmenyn.

Mae arddangosfa gyhoeddus dros ddeuddydd wedi'i chynllunio, lle bydd pobl yn cael dysgu mwy am y cynlluniau, sy'n dal i fod ar y cam dylunio, a siarad yn uniongyrchol â'r arbenigwyr o Japan, Marubeni, yn ogystal â thîm ynni'r cyngor.

Bydd yr arddangosfa'n cael ei chynnal ar safle Pwll Nofio Ynysawdre rhwng 2pm-7pm ddydd Mawrth 13 Rhagfyr, a rhwng 9am-1pm ddydd Mercher 14 Rhagfyr.

Mae rhai o'r straeon wedi awgrymu y gallai'r safle Hybont newydd - sy'n defnyddio hydrogen fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy - achosi perygl i fywyd, dominyddu’r dirwedd, creu llygredd newydd ac o bosib, achosi difrod eang i'r gymuned.

Mewn gwirionedd, bydd y safle arfaethedig newydd wedi'i leoli ochr yn ochr â diwydiannau presennol yn Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, gan feddiannu'r un faint o dir â gorsaf betrol fechan. Yr unig sgil-gynnyrch fydd yn cael ei gynhyrchu fydd ocsigen, a bydd y safle wedi'i dirlunio'n helaeth.

Bydd y safle'n creu hydrogen gan ddefnyddio uned gynhyrchu a thanc storio electrolysis, a fydd tua'r un maint â chynhwysydd cludo bach, a chasgliad solar a fydd yn cysylltu â fferm wynt leol drwy wifren breifat.

Gyda phrosiectau tebyg yn cael eu cynnal ledled y DU ac Ewrop, mae'r safle Hybont yn rhan o gamau newydd tuag at fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy glân a diogel a datgarboneiddio cerbydau.

Mae technoleg hydrogen eisoes wedi cyflwyno 22 o fysiau hydrogen newydd, diogel ac effeithiol, yn Llundain - sy'n gyfystyr â chael gwared ar 836 o geir petrol ac arbed 1,848 tunnell o CO2 - ac yn Aberdeen, mae 15 o fysiau hydrogen eisoes wedi teithio dros filiwn o filltiroedd ar y cyd, ac wedi arbed 1,700 tunnell o allyriadau.

Mae lorïau ailgylchu a gwastraff wedi'u pweru â hydrogen hefyd yn cael eu defnyddio'n llwyddiannus mewn ardaloedd fel Aberdeen a Chilgwri.

Yn anffodus, mae nifer fawr o wybodaeth anghywir eisoes yn cael ei rhannu am y safle Hybont arfaethedig newydd, ac mae rhai honiadau wedi bod yn hollol anghywir.

Mae'r dechnoleg wedi cael ei phrofi ac eisoes yn cael ei defnyddio mewn lleoedd eraill, a phetai'r cynnig yn llwyddiannus, mae'n addo cyflwyno buddsoddiad gwerth £31m i economi leol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau ein bod ar flaen y defnydd cynyddol o ynni adnewyddadwy ym mywyd pob dydd.

Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i ddod draw i ddysgu'n union beth sy'n mynd ymlaen, ac i gael ffeithiau o lygad y ffynnon drwy ofyn i'r arbenigwyr go iawn. Byddwn hefyd yn cynnig sesiynau briffio ychwanegol ar gyfer cynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol ac Aelodau o'r Senedd, er mwyn sicrhau eu bod yn deall y wybodaeth yn iawn.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau:

Chwilio A i Y