Cyngor yn cymeradwyo cynlluniau i fynd i’r afael ag eiddo gwag
Poster information
Posted on: Dydd Llun 13 Chwefror 2023
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i'r awdurdod ymuno â Chynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, tra bod cynigion i gyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor wedi cael sêl bendith y cyngor llawn.
Mae’r cynlluniau wedi’u hanelu at ddod ag ail fywyd i eiddo gwag, a chynyddu nifer y tai fforddiadwy ledled y fwrdeistref sirol.
Fel rhan o’r Cynllun Eiddo Gwag Cenedlaethol, mae gofyn i’r cynllun bellach ymuno â Chytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cael ei gadarnhau fel prif awdurdod y cynllun. Mae hefyd ymrwymiad i gyfateb yr arian ar sail achos fesul achos hyd at lefel o thua £124,000.
I fod yn gymwys am y grant, rhaid i eiddo fod wedi cofrestru fel ‘gwag’ gyda’r cyngor ers o leiaf 12 mis cyn dechrau unrhyw waith.
Ar wahân i berchnogion eiddo, bydd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, awdurdodau lleol a grwpiau tai cymunedol hefyd yn gallu cael mynediad at gyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio i roi ail fywyd i’r eiddo hyn fel tai fforddiadwy.
Mae telerau’r cynllun yn cynnwys:
- Un cais yn unig fesul person
- Uchafswm y grant fesul cais fydd £25,000
- Bydd gwelliannau sy’n effeithlon o ran ynni yn hanfodol fel rhan o’r gwaith fydd yn cael ei gynnal ar yr eiddo
- Bydd angen i’r ymgeisydd gyfrannu o leiaf 15%
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw talu unrhyw gostau eraill y tu hwnt i’r grant a’r cyfraniad
Ar ôl cwblhau'r gwaith, rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus fyw yn yr eiddo hwnnw fel ei brif ac unig breswylfa am o leiaf pum mlynedd.
Bydd y cynllun yn gwbl weithredol o 1 Ebrill 2023; fodd bynnag, lansiodd Llywodraeth Cymru'r cynllun ar 30 Ionawr 2023 er mwyn galluogi pobl i gyflwyno ceisiadau cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.
Er mwyn atgyfnerthu ymrwymiad y cyngor i ddod â mwy o eiddo yn ôl i ddefnydd ymhellach, cytunir hefyd i gyflwyno premiwm y dreth gyngor 100% ar eiddo gwag hirdymor a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023.
Yn ogystal â hyn, disgwylir i bremiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi ddod i rym ar 1 Ebrill 2024, yn amodol ar adroddiad pellach yn cael ei ailgyflwyno i’r Cyngor cyn gwneud penderfyniad terfynol y flwyddyn nesaf.
Mae gan Gynghorau Cymru'r gallu i weithredu premiymau’r dreth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Bydd unrhyw arian ychwanegol a godir drwy’r ffioedd hyn yn cael ei wario i gefnogi anghenion tai.
Pan fo cymaint o bobl yn wynebu bygythiad gwirioneddol digartrefedd, mae gennym gyfrifoldeb i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn rhoi ail fywyd i eiddo gwag.
Rydym mewn taer angen mwy o gartrefi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn cynnig dull moronen a ffon i annog perchnogion i roi ail fywyd i’w eiddo er budd y gymuned.
Dywedodd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant: