Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn archwilio pob opsiwn i wella traffig ym Mhencoed

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau yn ymrwymedig i archwilio pob opsiwn sydd ar gael o ran gwella traffig ym Mhencoed er gwaethaf bod cais diweddar y cyngor i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU wedi cael ei wrthod.

Mae’r awdurdod lleol yn awr yn chwilio am gyllid amgen ar gyfer y prosiect lle byddai pont newydd yn cael ei hadeiladu ar Ffordd Penprysg.

Os diogelir cyllid yn llwyddiannus, byddai lle ar gyfer traffig dwy ffordd ar y bont newydd, a byddai’n arwain at gau croesfan reilffordd Pencoed yn y pendraw, sy’n aml yn achosi tagfeydd pan fo’r bariau i lawr.  

Yn y cyfamser, mae cynlluniau ar y gweill i dreialu newidiadau i amseriad y system goleuadau traffig presennol, fydd yn cael ei fonitro’n agos i weld a oes unrhyw welliannau i lif y traffig dros y bont.

Yna, bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi cyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar p’un ai newid amseriad yr arwyddion yn barhaol neu beidio.

Er bod y penderfyniad gan Lywodraeth DU ar ein cais Ffyniant Bro yn hynod o siomedig, rydym yn parhau yn uchelgeisiol ac ymrwymedig i gyflawni’r prosiect hwnt ar gyfer pobl Pencoed.

Rydym ar hyn o bryd yn gofyn am adborth ynglŷn â pham y gwrthodwyd y cais wrth barhau â’n hymdrechion i ddiogelu cyllid newydd fydd yn ein galluogi i wireddu’r uchelgais hon.

Rydym hefyd wrthi’n archwilio opsiynau eraill ar gyfer gwella rheolaeth traffig megis amseriadau goleuadau traffig diwygiedig wrth ystyried y pryderon a dynnir ein sylw atynt.

Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, Aelod Cabinet dros Gymunedau:

Chwilio A i Y