Cyngor yn amlygu cost sylweddol taflu sbwriel o geir wrth i lanhau’r A48 fynd rhagddo
Poster information
Posted on: Dydd Iau 30 Mawrth 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhybuddio modurwyr i ddisgwyl oedi posibl wrth ddefnyddio’r A48 yr wythnos hon wrth i draffig gael ei gyfyngu i un lon ar hyd rhai rhannau o’r ffordd i alluogi gweithwyr godi sbwriel a gwastraff o ymyl y briffordd.
Bydd yr ymarfer clirio, fydd yn cychwyn ddydd Mercher 28 Mawrth ac y disgwylir iddo gymryd hyd at bum diwrnod i’w gwblhau, yn costio oddeutu £6,500 ac mae’n cael ei ariannu’n uniongyrchol o gyllidebau’r cyngor.
Mae unrhyw un sy’n taflu sbwriel neu’n tipio’n anghyfreithlon yn cosbi eu hunain wrth i gost clirio’r llanast ddod gan y trethdalwyr. Yn achos yr A48, mae sbwriel a gwastraff, sydd wedi ei daflu allan o geir sy’n pasio gan fwyaf, wedi casglu yn y llwyni, coed a gwrychoedd, ac ar hyd ymyl y briffordd.
Er mwyn cael gwared arno, mae’n rhaid cyflwyno mesurau traffig arbennig megis defnyddio cerbydau amddiffyn rhag gwrthdrawiad, a chau rhannau o’r ffordd i ddarparu amgylchedd gwaith diogel i staff.
Mae darparu hyn i gyd yn costio mwy na mil o bunnoedd y diwrnod, a gan mai dim ond rhwng oriau penodol y gellir gwneud y gwaith, mae’n rhaid i ni ystyried materion megis costau goramser yn ogystal â’r anghyfleustra y gall cael gwared ar y sbwriel ei achosi i yrwyr eraill. Mae hwn, wrth gwrs, yn arian y gellid ei ddefnyddio’n llawer gwell i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn enwedig ar adeg pan mae cyllidebau cynghorau’n cael eu gwasgu ar gyfer pob ceiniog a’r argyfwng costau byw yn ein taro’n galed. Mae ein neges yn un syml: cymerwch gyfrifoldeb dros eich sbwriel eich hun a ailgylchwch, defnyddiwch un o’r nifer o finiau sbwriel cyhoeddus sydd wedi eu lleoli ar draws y fwrdeistref sirol, neu gael gwared arno gartref gan ddefnyddio’r gwasanaeth ymyl y ffordd - peidiwch â gadael i’r trethdalwr orfod talu’r bil am eich annibendod chi.
Dywedodd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Lesiant