Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn targedu sefyllfa digartrefedd

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo prynu tri eiddo pellach er mwyn darparu llety dros dro gan gydnabod yr ystod o strategaethau yr ymgymerwyd â hwy gan y cyngor mewn ymgais i fynd i'r afael â'r sefyllfa digartrefedd wael a fodolai ar draws y fwrdeistref sirol.

Yng nghanol argyfwng digartrefedd yng Nghymru mae defnyddio gwasanaethau llety dros dro wedi cynyddu’n syfrdanol yng Nghyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd 71 o deuluoedd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2018/19 a 253 o deuluoedd ar ddiwedd 2022/23, sy’n cyfateb i gynnydd o 256 y cant o fewn y cyfwng amser hwn.  Ar ddiwedd Awst 2024, roedd y cyngor yn darparu llety dros dro i 265 o deuluoedd.

Mae’r sefyllfa hon wedi ei gwneud yn fwy difrifol gyda chynnydd ehangach yn y galw am dai cymdeithasol.  Ers 2019-2020, mae cyfanswm nifer y ceisiadau sydd ar Gofrestr Tai Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd bob blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol.  Ar ddiwedd 2019/2020 roedd yna 816 o ymgeiswyr, o'i gymharu â 3,254 o ymgeiswyr ar y Gofrestr Tai Cyffredinol ar ddiwedd Awst 2024.  Mae hyn wedi'i briodoli'n bennaf i draweffaith argyfwng costau byw, yn ogystal â’r lleihad yn y nifer o eiddo sy’n fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat.

Yn unol ag amcanion y Strategaeth Rhaglen Cefnogi Tai, mae'r awdurdod lleol wedi cymryd nifer o gamau er mwyn lleihau'r pwysau ar wasanaethau llety dros dro.    

Er enghraifft, prynu eiddo er mwyn lliniaru'r galw anferthol am lety dros dro.  Mae hyn hefyd yn galluogi'r awdurdod i wneud arbedion ariannol tymor canol, gyda llety o'r fath yn costio oddeutu 70 y cant yn llai na'r eiddo cyffredin amgen y gellir ei rentu.

Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r sefyllfa digartrefedd ddigalon.  Yn ystod misoedd diweddar mae 'Partneriaeth Tai Pen-y-bont ar Ogwr' wedi ei chreu, gan uno aelodau hŷn o staff o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gyda staff y cyngor er mwyn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o'r heriau, yn ogystal â throsolwg strategol.  Enghraifft arall yw'r cynnydd diweddar yn yr arian Grant Cymorth Tai gan Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod darparwyr llety yn gallu mynd i'r afael ag unrhyw bwysau tâl ac nad oes unrhyw gytundeb mewn diffyg.  Mae cysylltiadau gweithio gyda phartneriaid o'r trydydd sector yn hanfodol er mwyn cynorthwyo prosiectau llety dros dro a llety cymorth i gael eu cyflawni, yn ogystal â helpu'r cartrefi hynny sydd dan fygythiad o gael eu gwneud yn ddigartref, gan leihau'r galw am lety dros dro ar ddyddiad diweddarach.

Mae arian cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi darparu tai fforddiadwy yn y fwrdeistref sirol, gyda ffynonellau ariannu yn cynorthwyo amrywiaeth o brosiectau i greu mwy o gapasiti o ran tai, gan gynnwys adeiladu cartrefi newydd a gwella adeiladau presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai: "Rydym yn wynebu sefyllfa digartrefedd, genedlaethol ddigynsail sy'n gofyn am ymateb rhagweithiol, deinamig.

"Mae ein Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai a Chynllun Gweithredu ar gyfer 2022-2026 yn cynnig camau allweddol i fynd i'r afael â'r heriau y mae ein gwasanaethau digartrefedd yn ei wynebu, a'u lleihau.

“Mae'r cynllun pedair blynedd yn mabwysiadau dull amrywiol sydd ar yr un pryd wedi'i dargedu.  Mae'n amrywio o anelu i gynyddu'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a chymdeithasol, i weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill er mwyn atal digartrefedd.

“Mae ein Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai wedi ystyried pob agwedd at fynd i'r afael â digartrefedd ar draws y fwrdeistref sirol dros y blynyddoedd sydd i ddod, gyda'r nod o wneud digartrefedd yn ddigwyddiad prin, tymor byr nad yw'n cael ei ailadrodd. 

“Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn flaenoriaeth i'r cyngor ac mae'n gyfrifoldeb a rennir gyda'r holl wasanaethau cyhoeddus, gyda'r trydydd sector hefyd yn chwarae rôl.  Mae gweithio mewn partneriaeth yn ganolog i'r cyfan a wnawn.”

Chwilio A i Y