Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn sicrhau bod Metrolink Porthcawl yn cael ei adeiladu i bara
Poster information
Posted on: Dydd Llun 22 Gorffennaf 2024
Wrth i agoriad Metrolink Porthcawl ddynesu, mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon ynghylch ei strwythur a'i do glaswellt.
Wedi'i adeiladu ar wely o graig ar ochr yn wynebu tua'r tir o hen wal harbwr Salt Lake, mae polion concrid a ddefnyddiwyd i adeiladu'r Metrolink yn cynnig cryfder ac yn cynnal y strwythur ysgafn sydd wedi'i wneud yn bennaf o alwminiwm a gwydr.
Mae'r pyst dur wedi cael eu gosod o leiaf 10 metr yn y ddaear, gydag arolygwyr rheoli adeiladu yn monitro pob cam hanfodol o'r gwaith adeiladu, gan gynnwys gosod polion, pwmpio concrid, gosod sylfeini wedi eu hatgyfnerthu gyda dur, yn ogystal â gosod y strwythur.
Cafodd y gorchudd to glaswellt, bywlys, ei ddewis ar gyfer y lleoliad hwn yn benodol oherwydd ei nodweddion addas. Mae'r planhigyn hwn yn ffynnu mewn haul llawn, ac yn gallu dygymod â llawer iawn o ddŵr; mae'n tyfu'n gyflym i greu carped o ddail sy'n troi i liw tywyllach o wyrdd yn y gaeaf, ond sy'n felynfrown yn yr haf, wrth i'r planhigyn symud i gyfnod o hunanwarchod.
Mae'r bywlys, sydd hefyd i'w weld ar do Gwarchodfa Natur Cynffig, yn eithriadol o ddefnyddiol i'w gael ar ben to, oherwydd y ffordd mae'n amsugno dŵr ac yn gweddu i'r system ddraenio.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai:
Yn dilyn gwaith cynllunio, paratoi a monitro parhaus, manwl, gallwn fod yn hyderus bod y Metrolink wedi cael ei adeiladu ar sylfeini cadarn, cryf a bod y strwythur wedi derbyn pob math o sicrwydd ansawdd drwy gydol y broses o'i adeiladu.
Rydym yn gobeithio bod yr hyn rydyn ni'n ei dynnu sylw ato yn tawelu unrhyw bryderon ynghylch yr adeilad, ac y gall pobl edrych ymlaen at ddefnyddio'r gofod dengar, modern hwn, yn ogystal â chael gwell mynediad at ardaloedd ar draws de-ddwyrain Cymru drwy Metrolink.