Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn chwilio am landlordiaid i ymuno gyda chynllun prydles

Mae'r cyngor yn chwilio am landlordiaid preifat lleol i gymryd rhan yng Nghynllun Prydles Cymru Llywodraeth Cymru fel rhan o'i strategaeth i fynd i'r afael â'r cynnydd cyfredol mewn teuluoedd digartref ar hyd a lled y fwrdeistref sirol.

Yng nghanol argyfwng digartrefedd yng Nghymru mae defnyddio gwasanaethau llety dros dro wedi cynyddu’n syfrdanol yng Nghyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd 71 o deuluoedd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2018/19 a 253 o deuluoedd ar ddiwedd 2022/23, sy’n cyfateb i gynnydd o 256 y cant o fewn y cyfwng amser hwn.

Mae’r sefyllfa hon wedi ei gwneud yn fwy difrifol gyda chynnydd ehangach yn y galw am dai cymdeithasol.  Ers 2019-2020, mae cyfanswm nifer y ceisiadau sydd ar Gofrestr Tai Cyffredinol Pen-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd bob blwyddyn wedi cynyddu’n sylweddol.  Mae hyn wedi ei briodoli’n bennaf i draweffaith argyfwng costau byw, yn ogystal â’r lleihad yn y nifer o eiddo sy’n fforddiadwy o fewn y sector rhentu preifat.

Fel agwedd hanfodol o'i strategaeth i fynd i'r afael â digartrefedd yn y fwrdeistref sirol, mae'r cyngor yn annog landlordiaid preifat lleol i gyfranogi yng Nghynllun Prydles Cymru.

Yn ddibynnol ar ba mor addas ydynt, bydd landlordiaid o'r sector preifat fydd yn ymuno gyda'r cynllun yn derbyn ystod o wahanol fuddion fydd yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel yr amlinellir isod:

  • Sicrwydd o rent am hyd y brydles ar y gyfradd y Lwfans Tai Lleol perthnasol (mae prydlesi am gyfnod o bum mlynedd yn y lle cyntaf).
  • Lle bo'n angenrheidiol mae grant o hyd at £5k ar gael er mwyn gwella cyflwr yr eiddo i safon y cytunwyd arno.
  • Rheolaeth o'r eiddo am hyd y brydles, fydd yn cynnwys archwiliadau eiddo, gwaith atgyweirio a chynnal a chadw i gael eu cynnal ar ran y landlordiaid.
  • Cefnogaeth i denantiaid drwy gydol y denantiaeth.

Bydd Cynllun Prydles Cymru yn cynyddu'r cyflenwad o letai addas a fforddiadwy i'r rhai sydd ei angen, a helpu i liniaru'r pwysau presennol ar wasanaethau digartrefedd.

Mae'r cynllun yn gyfle ffantastig i landlordiaid preifat yn yr ardal, gan gynnig manteision niferus iddynt. Bydd landlordiaid yn derbyn cefnogaeth ariannol yn ogystal ag ymarferol gan Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn gynnig gwych i landlordiaid, ac rydym yn gobeithio y byddant yn cymryd mantais ohono.

Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Am ragor o wybodaeth, ebostiwch Tai Sector Preifat: privatesectorhousing@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y