Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei enwi fel y darparwr gwasanaethau gwastraff isaf o ran cost
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 14 Awst 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei restru fel y darparwr gwasanaethau gwastraff isaf o ran cost yng Nghymru, ac ymysg y darparwyr awdurdod lleol isaf ei gost ar gyfer casgliadau ailgylchu mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Awdurdod Lleol Cymru (WLGA).
Er mwyn cynnal ymrwymiad y cyngor i ddarparu gwasanaeth cost-effeithiol, ac i wella effeithiolrwydd y gwasanaeth, mae Cynghorwyr wedi cymeradwyo buddsoddiad angenrheidiol mewn pum cerbyd gwastraff ac ailgylchu newydd yn ogystal ag adnewyddu tri cherbyd casglu sydd ganddynt eisoes.
Bydd y buddsoddiad, sy'n cael ei ariannu o dan gynllun arian cyfalaf presennol y cyngor yn helpu i sicrhau bod y cyngor yn parhau i fod yn un o'r darparwyr isaf o ran cost. Rhagwelir y bydd y fflyd newydd sy'n cael ei phrynu nawr yn rhan o'r cam cychwynnol ar gyfer cynllun cyfnewid cerbydau saith blynedd cylchol er mwyn sicrhau bod fflyd gwastraff ac ailgylchu'r cyngor yn fwy effeithiol, cydnerth ac addas i'r pwrpas.
Mae cael eich gosod mewn safle fel y darparwr gwasanaeth gwastraff mwyaf cost-effeithiol yng Nghymru yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i'n preswylwyr sy'n disgwyl lefel gyson o wasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu o safon uchel. Mae hi felly yn hollbwysig ein bod yn gwneud y buddsoddiad hwn yn awr er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn cael ei ddarparu'n effeithiol heddiw ac yn yr hirdymor.
Mae ein cerbydau gwastraff ac ailgylchu yn teithio cannoedd o filltiroedd ar draws y fwrdeistref sirol bob wythnos ac yn casglu 80 tunnell o ailgylchu bob diwrnod. Gallwch werthfawrogi lefel y cynnal a chadw sydd ei angen er mwyn eu cadw'n weithredol, yn arbennig felly y cywasgwr mecanyddol sy'n cyddwyso'r miloedd o gynhwyswyr sy'n cael eu casglu. Mae gan ein fflyd bresennol beth bywyd gweithredol o hyd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio lle bo'n bosib er mwyn atal cerbydau rhag torri lawr a chasgliadau'n cael eu hamharu.
Wrth i'n cerbydau hŷn agosáu at ddiwedd oes a dod yn y pen draw yn rhy gostus i'w hatgyweirio, bydd y cerbydau newydd yn sicrhau bod ein fflyd wastad yn gweithredu ar y lefelau mwyaf effeithiol.
Y Cynghorydd Paul Davies, Aelod Cabinet dros Gymunedau