Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wrth y llyw gyda phrosiect arloesol i fynd i'r afael â graffiti casineb
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Ionawr 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cychwyn ar brosiect arloesol i fynd i'r afael â graffiti casineb ar draws y fwrdeistref sirol, trwy ddefnyddio'r Ap StreetSnap sydd newydd ei ddatblygu gan Brifysgol Abertawe.
Mae'r fenter yn gosod y cyngor a'i bartneriaid ar flaen y gad wrth alinio â Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru i greu “Cymru lle mae pawb yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi a lle gallwn fwynhau a dathlu ein gwahaniaethau”. Ariennir y prosiect gan y Bartneriaeth SMART rhwng Prifysgol Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Llywodraeth Cymru. Ar y cam hwn, bydd yr Ap StreetSnap yn cael ei ddefnyddio gan ymarferwyr o bob rhan o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.
Wedi’i ddatblygu ar y cyd â Labordy Arloesedd Cyfreithiol Cymru, mae gan yr ap lawer o nodweddion, ond yn bennaf mae’n galluogi defnyddwyr i dynnu a llwytho delweddau o graffiti sarhaus i gronfa ddata fyw o ddigwyddiadau graffiti. Trwy'r uwchlwythiad hwn, bydd yr union leoliad a'r amser yn cael eu cofnodi'n awtomatig, a bydd defnyddwyr yn gallu ychwanegu gwybodaeth ychwanegol. Bydd y data hwn yn cael ei adrodd i adrannau a phartneriaid perthnasol, bydd y graffiti gweledol yn cael ei ddileu o fewn 48 awr, a bydd gwybodaeth yn cael ei storio ar gronfa ddata. Bydd y gronfa ddata hon ar gael i staff gweinyddol lefel uchel gyda graddau amrywiol o fynediad, a all wedyn ddadansoddi'r data.
Bydd dadansoddiad o'r data sydd wedi'i storio yn cynnig cipolwg ar feysydd penodol, gan gynnwys unrhyw faterion, patrymau neu dueddiadau a allai ddod i'r amlwg. Yna gall gweithwyr proffesiynol cydlyniant cymunedol fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a nodir trwy ymgysylltu â'r cymunedau dan sylw.
Mae Matthew Rowlands, Gweithiwr Prosiect Ieuenctid a Chymuned ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn esbonio sut mae'r ap wedi'i osod i at bwrpas yn y gymuned. Dywedodd: "Fel gweithwyr ieuenctid ar y stryd, rydym yn gweld achosion o graffiti ar draws y fwrdeistref sirol. Byddai datblygu'r Ap StreetSnap yn hynod ddefnyddiol i ni gipio delweddau o'r graffiti troseddol a’u llwytho ar gyfer ymateb yn gyflym i'w dileu, gan leihau tramgwydd i'r cyhoedd o ganlyniad. Bydd yr ap hefyd yn ein helpu i ddeall rhai o'r problemau posibl sy'n bodoli mewn ardaloedd a chymunedau penodol, gan ganiatáu i ni ddatblygu ymatebion ac ymgysylltu i weithio'n effeithiol gyda phobl ifanc."
Ar hyn o bryd, nid oes offeryn ar gael o fewn yr heddlu nac yn unman arall i gofnodi, monitro na defnyddio data sy'n ymwneud â delweddau casineb yn y gymuned, naill ai'n genedlaethol neu'n fyd-eang.
Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Llywodraeth Cymru ar y prosiect newydd cyffrous hwn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y fenter hon nid yn unig yn sicrhau ein bod yn glanhau ac yn cael gwared ar graffiti casineb hyll, niweidiol ond hefyd, bydd yn ein galluogi i gofnodi a dogfennu beth a ble mae'r materion hyn yn digwydd i'n cynorthwyo i atal y felltith hon ar ein cymunedau.
Mae’r dechnoleg hon yn rhoi cyfle i’n swyddogion Partneriaeth Plismona Bro a Diogelwch Cymunedol lleol dargedu ein hymdrechion gorfodi ac ymgysylltu.
Arolygydd Richard Gardiner, o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Heddlu De Cymru
Dywedodd Dr Lella Nouri, athro cyswllt ym Mhrifysgol Abertawe a sylfaenydd yr Ap StreetSnap: “Mae gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gynllun peilot StreetSnap yn gyffrous iawn. Mae'r cyngor a'i bartneriaid yn arloesi gyda gwaith yn y maes hwn ac yn gwneud lle i reoli tensiynau cymunedol yn well a chynhyrchu gwaith ymyrryd a arweinir gan dystiolaeth. Mae'r gwaith tîm a welwyd ar draws y cyngor a'i bartneriaid wedi bod yn eithriadol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod yn adnabyddus fel un o’r bwrdeistrefi mwyaf blaengar ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb ac arwain y ffordd wrth helpu Llywodraeth Cymru yn ei gweledigaeth ar gyfer Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.”
Dywedodd Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Lles: “Mae sefydlu sylfaen wybodaeth gadarn ym maes graffiti eithafol a throseddau casineb gweledol yn hollbwysig os ydym am fynd i’r afael ag o a gweithio tuag at ddathlu Cymru sy’n gyfoethog yn ddiwylliannol.
“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch iawn, heb sôn am gyffrous, am dreialu’r Ap Streetsnap ac am arwain y ffordd i gefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru Llywodraeth Cymru. Rydym eisoes yn cael ein defnyddio fel esiampl yng Nghynllun Gweithredu Troseddau a Chyfiawnder Gwrth-Hiliaeth Cymru 2022, ac mae’r prosiect hefyd wedi’i gydnabod fel ‘arfer da’ gan fwrdd CONTEST Cymru.
“Mae hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr ar draws ein partneriaethau wedi dechrau ac rydym wrth ein bodd!”
Mae’r ap yn cael ei lansio’n ffurfiol ym mis Ionawr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei ystyried gan awdurdodau lleol ar draws y DU, gan gynnwys cyngor canol Llundain.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Melanie Morgan drwy e-bost: melanie.l.morgan@swansea.ac.uk .