Cynghorwyr yn cytuno ar brotocol diogelwch personol newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 22 Mawrth 2024
Mae cynghorwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar brotocol diogelwch personol newydd yn dilyn adroddiadau o gamdriniaeth, bygythiadau a chodi ofn ar aelodau etholedig.
Mae’r protocol, a gymeradwywyd yn y cyngor llawn, yn darparu asesiad risg ac arweiniad i gynghorwyr yn ymwneud â’r gweithgareddau amrywiol maent yn eu cyflawni wrth wasanaethu cymunedau lleol ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn ogystal â chyngor am weithio ar eich pen eich hun, cynhwysir canllawiau cyfryngau cymdeithasol hefyd sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd diogelwch ar-lein ac ymdrin â phostiadau cyfryngau cymdeithasol o natur negyddol.
Darparodd Heddlu De Cymru sesiynau briffio hefyd ac maent wedi cynghori cynghorwyr i adrodd unrhyw bryderon yn uniongyrchol iddyn nhw.
Yn ddiweddar rhyddhaodd arweinwyr grŵp y cyngor ddatganiad ar y cyd yn condemnio’r gamdriniaeth tuag at gynghorwyr. Roedd y datganiad yn pwysleisio penderfynoldeb cyffredin i roi diwedd ar weithredoedd annerbyniol y lleiafrif.
Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dadl ddemocrataidd iach a cham-drin a brawychu. Waeth beth yw eu daliadau gwleidyddol, mae gan yr holl aelodau’r hawl i fod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel wrth gynnal cymorthfeydd cyhoeddus â thrigolion, wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Dylai’r rhai sy’n gyfrifol ddeall y bydd canlyniadau negyddol i'w gweithredoedd, nid yn unig i gynghorwyr ond i gymunedau lleol sydd angen ein cymorth. Byddwn yn annog yr holl aelodau i dderbyn y cyngor a roddwyd yn y protocol gan ein bod yn parhau i wneud safiad yn erbyn yr ymddygiad annerbyniol hwn.
Cynghorydd Huw David (Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r grŵp Llafur), y Cynghorydd Amanda Williams (Arweinydd Annibynwyr Sir Pen-y-bont ar Ogwr) a’r Cynghorydd Ross Penhale-Thomas, (Arweinydd grŵp y Gynghrair Ddemocrataidd)