Cymuned Nantymoel yn croesawu darpariaeth gofal plant.
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 17 Hydref 2023
Mae cymuned leol arall yn elwa o raglen ehangu gofal plant Dechrau’n Deg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth i holl blant ifanc rhwng dwy a thair blwydd oed Nantymoel ddod yn gymwys am ddarpariaeth gofal plant a ariennir.
Nodwyd cymuned Nantymoel fel rhan o Gam 2A rhaglen ehangu gofal plant Dechrau’n Deg yn ystod blwyddyn ariannol 2023-2024, gan nad oedd unrhyw ddarpariaeth gofal plant presennol yn yr ardal.
Mae gwerth £580,000 o gyllid cyfalaf wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru er mwyn adeiladu cyfleuster gofal plant newydd ar safle Ysgol Gynradd Nantymoel. Mae'r cyfleuster yn cael ei gynllunio ar hyn o bryd, a disgwylir iddo agor yn nhymor yr hydref 2024.
Yn y cyfamser, mae staff wedi cael eu recriwtio, ac maent yn gweithio mewn partneriaeth â chanolfan gymunedol Clwb Bechgyn a Merched MEM Nantymoel er mwyn hwyluso’r ddarpariaeth yn y ganolfan.
Yn ddiweddar, aeth aelodau Cabinet y cyngor ar daith i weld y ddarpariaeth newydd yn Y MEM.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw David: ‘Mae Dechrau’n Deg yn ymwneud â galluogi teuluoedd i fod mewn gwell sefyllfa i gynnig mwy o gyfleoedd i’w plant. Mae wedi bod yn wych gweld ymateb cadarnhaol y gymuned, rydym yn hynod falch y bydd y cyfleuster a’r ddarpariaeth newydd yn cynnig gofal plant am ddim i rieni yn Nantymoel.
“Mae’r ddarpariaeth yng nghanolfan gymunedol Nantymoel wedi bod yn cael ei rhedeg ers mis Medi, ac mae cynnydd yn nifer y plant sy'n mynychu’n dangos yn amlwg bod y gymuned gyfan yn ei chroesawu.
“Mae ymrwymiad a gwaith caled staff a gweithwyr cymorth teulu yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant, wrth barhau i helpu a chefnogi teuluoedd yn Nantymoel.
Dywedodd Amy Hurst, mam Evie, sy’n mynychu’r ddarpariaeth: “Rwy’n teimlo ein bod wedi elwa o fynychu’r sesiynau, hyd yn oed mewn cyfnod byr, mae fy merch yn dweud mwy o eiriau o lawer, ac yn ei chael hi’n haws cyfathrebu ei hanghenion.
“Cafodd Evie ei geni yn ystod Covid, ac felly, mae wedi bod yn anodd mynd allan a chwarae â phlant eraill, felly mae’r ddarpariaeth hon wedi bod yn help garw, ac mae’n hyfryd ei gweld hi’n chwarae â phlant yr un oed â hi. Mae hi bob amser yn gadael yn llawn cyffro, gyda gwên ar ei hwyneb.”
Dywedodd rhiant arall, Gemma Dethridge, “Mae fy mab wedi magu hyder yn sylweddol ers dechrau mynychu, mae’n dod yn fwy annibynnol, a bydd y rhaglen yn ei baratoi ar gyfer yr ysgol.”
Gan fod y Rhaglen Dechrau’n Deg eisoes wedi bod ar waith yn Lewistown a Melin Ifan Ddu dros y 10 mlynedd ddiwethaf, roedd ehangu i ardal Nantymoel yn ddatblygiad naturiol. Mae’r rhaglen ehangu gofal plant yn golygu bod modd i bob plentyn dwy oed yng Nghwm Ogwr elwa o'r ddarpariaeth gofal plant hon a ariennir.
Mae'r rhaglen Dechrau’n Deg yn fenter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n anelu at gynnig gwell cyfleoedd i blant.
Roedd yn wych cwrdd â’r plant, y staff a’r teuluoedd, a gweld y gefnogaeth arbennig yma yn Nantymoel.
Neelo Farr, Aelod Cabinet y cyngor dros Ddiogelwch a Llesiant Cymunedol
Mae Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant a ariennir i deuluoedd o’r tymor ar ôl ail ben-blwydd y plentyn, hyd at ddiwedd y tymor pan maent yn dair oed. Mae’r cynnig ar gyfer 12.5 awr yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn (y cyfnod tymor academaidd).
Caiff Dechrau’n Deg hefyd ei gynnig yn ardaloedd o Afon y Felin, Garth, Betws, Caerau, Parc Maesteg, Ystâd Oakwood, Sarn, Bracla, Melin Ifan Ddu, Lewistown, Corneli, Melin Wyllt, Cefn Glas, Pontycymer a Mynydd Cynffig. Mae Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg ar gael ledled Dechrau’n Deg, mewn partneriaeth â lleoliadau Mudiad Meithrin.
Am fwy o wybodaeth am Dechrau’n Deg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â flyingstart@bridgend.gov.uk