Cymorth ar gael i helpu busnesau i adfer ar ôl y tân ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Llun 29 Ionawr 2024
Mae busnesau a gweithwyr yr effeithiwyd ar eu swyddi a’u bywoliaeth yn sgil y tân diweddar a ddinistriodd warws fawr ac a ddifrododd nifer o adeiladau cyfagos ar Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwahanol fathau o gymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Effeithiodd y tân ar 42 o fusnesau, gan ddinistrio a difrodi rhai adeiladau a chan effeithio ar gyflenwad trydan adeiladau eraill. Tra mae ymchwiliadau’n cael eu cynnal i geisio dod o hyd i’r hyn a achosodd y tân, mae 37 o’r busnesau dan sylw wedi gallu ailddechrau masnachu.
Roedd y tân hwn yn ddifrifol iawn a dinistriodd adeilad a oedd oddeutu’r un maint â dau gae pêl-droed, a byddai wedi achosi mwy fyth o ddifrod oni bai am y camau di-oed a gymerodd y gwasanaethau brys rheng flaen.
Ers i’r tân ddigwydd, mae staff y cyngor wedi cynnig help a chymorth ymarferol i fusnesau a gweithwyr yr effeithiwyd ar eu bywoliaeth. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys help i chwilio am safleoedd eraill yn y tymor byr a’r tymor hir, gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru er mwyn gallu mynd i mewn i’r adeiladau a aeth ar dân, canfod ffynonellau cyllid defnyddiol, a sicrhau bod rhwystrau a mesurau eraill ar waith er mwyn diogelu busnesau a’r cyhoedd.
Hefyd, mae ein Tîm Cyflogadwyedd wrth law i gynnig cymorth a chyngor arbenigol i weithwyr unigol, yn cynnwys cefnogaeth gyda dod o hyd i waith newydd, cael mynediad at hyfforddiant, ennill cymwysterau newydd, datblygu sgiliau newydd a mwy.
Huw David, Arweinydd y Cyngor
Mae Benchmark Scenic Construction ymhlith y busnesau sydd wedi cael cymorth. Mae’r busnes hwn yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu golygfeydd a phropiau ar gyfer y diwydiant ffilm a theledu.
Mae’r cyngor a’r cymorth a gafwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn ddefnyddiol iawn, gan ymdrin ag amrywiaeth o faterion sy’n anelu at ein helpu i ailgodi’r busnes unwaith eto.
Rydym wedi cael cymorth i chwilio am safle y gallwn ei ddefnyddio fel man cydosod dros dro, a hefyd rydym wedi cael cyngor ynglŷn â sut y gallwn gael gafael ar gyllid i helpu ein staff, a mwy.
Rydw i’n ddiolchgar am y cymorth, a buaswn yn annog busnesau eraill sydd wedi dioddef yn sgil y tân i gysylltu â’r cyngor i weld drostyn nhw’u hunain sut fath o gymorth sydd ar gael.
Tom Berrow, perchennog Benchmark Scenic Construction
Mae Heddlu De Cymru wedi arestio a mechnïo dyn lleol 25 oed ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd. Mae’r ymchwiliadau’n parhau.