Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl i barhau â darparwr newydd

Bydd cymorth a chefnogaeth yn parhau i ofalwyr di-dâl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda darparwr newydd yn darparu gwasanaeth llesiant pwrpasol.

Mae TuVida yn cefnogi gofalwyr di-dâl a’r bobl maent yn gofalu amdanynt gyda chyngor llesiant ac iechyd, hawl i seibiant mewn gyrfa, grantiau gyrfa, cyngor ynghylch gofal, hyfforddiant rhad ac am ddim, aelodaeth ratach a rhad ac am ddim, a grwpiau cymorth. 

Bydd y sefydliad nid er elw yn dechrau darparu gwasanaeth Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr o 1 Ebrill 2023.

O ganlyniad i ymarfer ail-dendro diweddar, llwyddodd TuVida i ennill y cytundeb ar gyfer ein holl wasanaeth Llesiant Gofalwyr.

Gyda nifer o bobl yn darparu gofal di-dal i berthnasau, ffrindiau, partneriaid neu gymdogion, mae gwasanaethau Llesiant Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn allweddol i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol.

Rydym yn deall y gall cyfrifoldebau gofal fod yn wahanol o berson i berson, ac rydym yn annog yr holl ofalwyr di-dâl i gael hawl i’r cymorth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd Aelod Cabinet Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, Jane Gebbie:

Chwilio A i Y