Cymeradwyo Ysgol Gynradd Cwmfelin am gynnig cyfleoedd dysgu ar sail profiadau ‘bywyd go iawn’
Poster information
Posted on: Dydd Iau 12 Hydref 2023
Roedd arolwg gan Estyn ym mis Tachwedd y llynedd wedi canmol Ysgol Gynradd Cwmfelin am sawl un o’i harferion, yn enwedig y modd y mae’n cynnig profiadau dysgu dilys i’w disgyblion.
Fe gafodd yr ysgol ganmoliaeth arbennig am ei phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’ – sef menter sy’n darparu bwyd fforddiadwy i’r gymuned leol. Mae adroddiad Estyn yn amlygu’r modd y mae’r cynllun yn arbennig o effeithiol o ran caniatáu i ddisgyblion ddysgu o fewn cyd-destun dilys. Roedd y modd y mae’r athrawon yn defnyddio’r prosiect i gefnogi dysgu o fewn sefyllfa ‘bywyd go iawn’ wedi creu argraff mor dda ar yr arolygwyr, eu bod wedi gofyn i’r ysgol baratoi astudiaeth achos ar gynllun ‘Big Bocs Bwyd’ ar gyfer gwefan Estyn.
Nodwyd ymdrechion arweinyddion yr ysgol o ran eu bod yn meithrin ethos cadarnhaol tuag at ddatblygu staff, yn ogystal â’u bod yn annog arloesedd. Hefyd, roedd system yr ysgol ar gyfer canfod dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, a’r ddarpariaeth ar eu cyfer, wedi’i hamlygu fel cryfder gan yr arolygwyr, ynghyd â balchder disgyblion ynddynt eu hunain, eu hysgol a’u gwaith.
Roedd Joanne Edwards, sef y pennaeth dros dro ar adeg yr arolwg, a Julie Morgan, y pennaeth parhaol, wedi ysgrifennu’r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Estyn: “Mae’r staff a’r llywodraethwyr wrth eu boddau bod tîm arolygu Estyn wedi gweld holl gryfderau’r ysgol. Mae’r arolygwyr yn cydnabod pa mor galed yr ydyn ni’n gweithio yng Nghwmfelin, i greu amgylchedd anogol a chynhwysol.”
“Rydyn ni’n eithriadol o falch bod adroddiad yr arolwg yn amlygu ein hethos gofalgar, a’r berthynas gref rhwng y staff a’r disgyblion. Fe gafodd ein prosiect ‘Big Bocs Bwyd’, sy’n cefnogi’r gymuned leol, ei amlygu fel un o gryfderau arbennig yr ysgol. Mae ‘Big Bocs Bwyd’ yn darparu cyd-destun dilys ar gyfer dysgu, gan gefnogi disgyblion i ddatblygu sgiliau bywyd pwysig, fel llythrennedd ariannol a choginio, ac rydyn ni’n arbennig o falch o fod wedi cael ein gwahodd i ysgrifennu astudiaeth achos i rannu’r enghraifft hon o arfer da ar wefan Estyn.”
“Mae ein cwricwlwm pwrpasol ar gyfer Cwmfelin, sy’n ffrwyth blynyddoedd lawer o waith datblygu, yn cael ei gydnabod fel cryfder arbennig hefyd. Mae’r gwaith yn parhau, ac mae’r staff yn dal i fireinio a diweddaru cwricwlwm yr ysgol, lle mae’r plant yn dysgu ar sail ymholi, gan sicrhau ei fod yn dal i fod yn berthnasol ac yn atyniadol, ac yn eu galluogi i ddatblygu eu diddordebau a’u sgiliau penodol nhw.”
Gwych o beth ydy gweld bod plant yn cael eu cefnogi trwy’r modd y mae’r ysgol hon yn cynnig profiadau mor gyfoethog ac ystyrlon. Yr hyn sydd gennym yma ydy staff ymroddgar a chynhwysol, sydd wedi cael cydnabyddiaeth haeddiannol mewn dim llai nag adroddiad arolwg gan Estyn, sy’n eu canmol i’r cymylau. Da iawn chi, Ysgol Gynradd Cwmfelin!
Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg