Cymeradwyo ymgynghoriad i gynyddu'r dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir
Poster information
Posted on: Dydd Iau 17 Tachwedd 2022
Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau i ddechrau proses ymgynghori ar gynyddu'r dreth gyngor ar berchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir.
Mae gan yr awdurdod lleol bwerau ar gael i godi premiymau'r dreth gyngor drwy Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Byddai'r cynnig yn helpu i roi defnydd newydd i gartrefi gwag er mwyn cynnig cartrefi fforddiadwy a diogel a byddai'n cynorthwyo'r cyngor i wella cynaliadwyedd cymunedau lleol.
Diffinnir eiddo gwag tymor hir fel annedd lle nad oes fawr ddim dodrefn ynddo ac nad oes neb wedi byw ynddo am o leiaf blwyddyn.
Pe byddent yn cael eu cymeradwyo, byddai'r cynlluniau ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol 2023-24, a fydd yn rhoi cyfle i'r cyngor sicrhau bod trigolion yn ymwybodol o'r newid hwn.
Ar ôl gwneud penderfyniad, byddai'r Cyngor yn ysgrifennu at bob perchennog tŷ i'w cynghori ynghylch y newidiadau arfaethedig, gan roi cymaint o rybudd ymlaen llaw â phosibl.
Mae'r data diweddaraf, ar Hydref 2022, yn dangos bod 701 eiddo gwag tymor hir yn y fwrdeistref sirol. O'r cyfanswm uchod, mae 275 eiddo wedi bod yn wag ers dros bum mlynedd.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae gan yr awdurdod lleol hawl i gadw unrhyw gyllid ychwanegol a gynhyrchir o weithredu'r premiwm. Anogir awdurdodau i ddefnyddio unrhyw refeniw ychwanegol i fodloni anghenion am dai lleol.
Bydd cyfnod ymgynghori o 4 wythnos yn dechrau yfory (16 Tachwedd), a fydd yn cynnwys y cyngor yn ysgrifennu'n uniongyrchol at berchennog pob eiddo gwag yn gofyn am adborth. Bydd trigolion yn cael dweud eu dweud drwy wefan y cyngor.
Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad wedyn yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet maes o law.
Pan fo cymaint o bobl yn wynebu bygythiad gwirioneddol digartrefedd, mae gennym gyfrifoldeb i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cynnig eiddo gwag.
Er bod cartrefi newydd yn allweddol, maent yn cymryd amser i'w datblygu, ac rwy'n gobeithio y bydd y newid hwn yn sicrhau bod stoc breswyl bresennol yn cael ei chyflwyno'n ôl i'r farchnad cyn gynted â phosibl.
Mae hefyd yn galonogol gweld bod Llywodraeth Cymru'n annog defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol i fuddsoddi mewn tai lleol, a all gael effaith gadarnhaol ychwanegol ar ein cymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol a Llesiant: