Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn blaenoriaethu lles cymunedol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 01 Mawrth 2023
Mae cyllideb sydd â’r nod o gefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed y gymuned leol drwy’r argyfwng costau byw parhaus wedi’i chymeradwyo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y gyllideb, sydd wedi’i galw’n ‘gyllideb Lles’ gan uwch aelodau’r Cyngor, yn golygu bod gan yr awdurdod lleol gyllideb refeniw gros o £485m, cyllideb net o £342m a rhaglen fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol o £69m ar gyfer 2023-24.
Er mwyn ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol a gwneud yn iawn am ddiffyg cyllidol o £8m, cytunwyd ar gynnydd o 4.9 y cant yn y dreth gyngor - sy’n llai na’r 6 y cant a awgrymwyd yn flaenorol. Mae hyn gyfystyr ag £1.50 yn ychwanegol yr wythnos i eiddo Band D cyfartalog.
Bydd cyllid cynyddol o fwy na £12m yn cael ei fuddsoddi i wasanaethau hanfodol a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ar gyfer 2023-24, gan fynd â chyllideb gyffredinol y gyfarwyddiaeth i fyny i £92.79m.
Bydd hyn yn cynnwys £26m i wasanaethau ar gyfer pobl hŷn, £24.1m ar gyfer gofal cymdeithasol i blant, £21m ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu a £5.7m ar gyfer gwasanaethau sy’n gofalu am les pobl, cynnal eu hannibyniaeth a’u hatal rhag bod angen rhagor o gefnogaeth cyn hired ag sy’n bosibl.
Bydd mwy na £5.5m yn cefnogi oedolion ag anableddau corfforol a namau synhwyrol, a defnyddir £5.2m i reoli a darparu gwasanaethau ar gyfer oedolion. Bydd £4.8m ar gael i helpu oedolion ag anghenion iechyd meddwl.
Bydd cyfanswm o £692,000 yn cael ei fuddsoddi i ddiweddaru a gwella gwasanaethau teleofal i bobl hŷn - prosiect sy’n helpu pobl i fyw’n annibynnol gartref gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro lles a’u helpu i gadw’n ddiogel.
Mae’r cyngor hefyd yn parhau i fuddsoddi i’r gweithlu gofal cymdeithasol, gydag ymgyrchoedd recriwtio parhaus yn annog staff i fwynhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, tra’n cael cefnogaeth a hyblygrwydd llwyr wrth eu gwaith, cyfleoedd hyfforddiant a datblygu, rhagolygon gyrfa da a mwy.
Bydd gwasanaethau a ddarperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn derbyn mwy na £137m o’r gyllideb gyffredinol, gyda £110m yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion i gefnogi costau rhedeg, cyflogau staff ac athrawon a mwy.
Er bod oddeutu £40,000 yn cael ei arbed drwy ddirprwyo rhai cyfrifoldebau trafnidiaeth i ddarparwyr, gofynnir i ysgolion gyflawni arbedion o £2.1m ar gyfer 2023-24. Ar yr un pryd, mae’r cyngor yn bwriadu buddsoddi £7.3m yn ychwanegol i ysgolion i ariannu’r holl bwysau cyflogau a chostau chwyddiant ysgolion.
Bydd buddsoddiad cyfalaf gwerth £26.9m yn galluogi’r cyngor i ddarparu gwelliannau sy’n cynnwys bloc addysgu newydd gwerth £1.6m yn Ysgol Gyfun Bryntirion, £950,000 ar gyfer estyniadau yn ysgolion cynradd Coety a Phencoed, a £1.1m ar gyfer darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont a Phorthcawl.
Gyda dros £1.9m i gefnogi adfywiad parhaus ceginau ysgolion a chyflwyniad prydau ysgol am ddim, bydd £386,000 yn cael ei fuddsoddi i gae chwarae bob tywydd yn Ysgol Brynteg, yn ogystal â £220,000 i ddarparu dosbarthiadau symudol o safon uchel yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr.
Mae’r cyngor eisoes wedi gwario £21.6m yn adeiladu ac yn adnewyddu ysgolion yn rhan o Fand A o’i raglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac mae wedi ymrwymo i £19m pellach yn rhan o Band B. Mae dros £10.5m wedi’i bennu ar gyfer ysgolion Band B yn 2023-24, yn ogystal â £3,300 ar gyfer cynlluniau priffyrdd cysylltiedig.
Bydd Ysgol Gynradd Abercerdin yn derbyn £267,000 i sefydlu hyb dysgu newydd, a bydd £71,000 yn cael ei fuddsoddi i waith diogelwch traffig o amgylch ysgolion lleol. Bydd ysgolion hefyd yn derbyn mwy na £3.9m drwy’r grant cynhaliaeth cyfalaf, a bydd £548,000 yn cefnogi gwaith i’w helpu i ddatblygu rhagor o gyfleusterau all gael eu rhannu â’r gymuned leol.
Yn rhannau eraill o’r Cyngor, bydd gwasanaethau a ddarperir gan y gyfarwyddiaeth Cymunedau yn derbyn £30.55m yn ogystal â dros £30.3m mewn buddsoddiadau cyfalaf drwy’r flwyddyn.
Bydd hyn yn cynnwys £1.7m ar gyfer parhau i ddiweddaru meysydd chwarae i blant a’u gwneud nhw’n fwy hygyrch, £1m ar gyfer adnewyddu priffyrdd, a £2.9m ar gyfer adnewyddu parhaus ym Mhorthcawl, yn ogystal â £520,000 ar gyfer y datblygiad Cosy Corner.
Ymhlith buddsoddiadau eraill mae £1.5m ar gyfer datblygiad Hyb Diwylliannol Neuadd Dref Maesteg a £400,000 ar gyfer Rhaglen Ddatgarboneiddio 2030, a fydd yn chwarae rhan allweddol o ran helpu’r cyngor i fodloni statws carbon sero net erbyn 2030.
Dywedodd y Cynghorydd Hywel Williams, Aelod Cabinet dros Adnoddau: “O feddwl bod y cyngor eisoes wedi darparu ar gyfer diffyg o £72m mewn cyllid craidd ers 2010-11, mae dod o hyd i arbedion pellach wrth geisio gosod cyllideb gytbwys, yng nghanol pwysau cynyddol, wedi bod yn her aruthrol.
“Credwn ein bod wedi llwyddo i wneud hyn, a’n bod wedi darparu cyllideb realistig a theg sy’n blaenoriaethu lles pobl ar adeg pan fo pawb yn profi heriau bywyd modern.
“Rydym wedi sicrhau bod y cynnydd yn y dreth gyngor mor isel ag sy’n bosibl, ac wedi dod o hyd i arbedion drwy newid i oleuadau stryd LED, gosod rhannau o’r adeilad yn Llys Ravens, cau canolfannau ailgylchu am ddiwrnod yr wythnos, codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas am barcio, a chynnydd bach yn y ffi ar gyfer gwasanaethau optio i mewn megis casglu gwastraff swmpus ac ailgylchu gwastraff gardd.
“Doedd hi ddim yn broses hawdd, ac rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi chwarae rhan yn helpu i sicrhau y gall cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer 2023-24.”
Rwyf eisoes wedi dweud yn gyhoeddus mai dyma’r gyllideb fwyaf heriol i mi erioed chwarae rhan yn ei gosod, ond rwy’n falch o’r ffordd y mae’n ceisio cefnogi teuluoedd, hyrwyddo lles ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed.
Mae’r gyllideb hon yn cyflawni tra’n ymdrin â phwysau megis yr argyfwng costau byw, cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau hanfodol, cynnydd enfawr o 10 y cant o ran chwyddiant ac anawsterau cynyddol o ran ceisio deunyddiau ac adnoddau. Wrth ei gosod, rydym wedi dysgu gan arfer gorau, wedi lobio ar gyfer setliad teg gan Lywodraeth Cymru ac wedi’i dderbyn, ac wedi mynd â’r cynigion drwy sawl cyfarfod o’r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllidebau trawsbleidiol, craffu, Bwrdd Rheoli Corfforaethol, ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a mwy.
Mae’r ‘gyllideb Les’ hon wedi’i chydnabod yn un sy’n uchelgeisiol, ond sydd hefyd yn realistig iawn. Mae wedi’i phennu i adlewyrchu’r blaenoriaethau, y pwysau a phryderon pobl leol, ac i barhau’n addas at y diben drwy gydol y flwyddyn i ddod. Ni waeth pa heriau newydd y byddwn yn eu hwynebu yn 2023-24, mae’r gyllideb hon yn sicrhau ein bod ni wedi paratoi, ein bod ni’n barod ac yn gallu eu taclo.
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: