Cyllideb y Cyngor 2023-24: Beth mae'n ei olygu i Gymunedau ac Adfywio
Poster information
Posted on: Dydd Llun 27 Chwefror 2023
Mae cynigion cyllideb ar gyfer 2023-24 wedi cael eu cymeradwyo gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau y gall yr awdurdod lleol barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol a bodloni rhai o'r heriau anoddaf mae wedi’u hwynebu erioed.
Os bydd cytundeb pan fydd yn mynd gerbron y Cyngor am benderfyniad terfynol ar 1 Mawrth, byddai'r gyllideb yn golygu y bydd yr awdurdod yn gwario £30.55m ar wasanaethau hanfodol fyddai’n cael eu darparu gan y gyfarwyddiaeth Cymunedau y flwyddyn nesaf.
O ran buddsoddiad cyfalaf, bydd cyfanswm o £30.3m yn cael ei fuddsoddi yn 2023-24. Mae hyn yn cynnwys mwy na £1.7m i uwchraddio meysydd chwarae plant, £1m ar gyfer adnewyddu priffyrdd, a £2.9 miliwn ar gyfer prosiect adfywio Porthcawl. Bydd y prosiect Cosy Corner hefyd yn cael mwy na £520,000.
Mae'r cyngor wedi gwario £500,000 ar feysydd chwarae yn 2022-23 ac mae hyn wedi galluogi gwelliannau fel gosod offer cynhwysol i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o anableddau. Bydd y buddsoddiad pellach hwn nawr yn caniatáu i hyd yn oed mwy o feysydd chwarae gael eu huwchraddio ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys, £1.5 miliwn ar gyfer datblygiad Canolfan Ddiwylliannol Neuadd y Dref Maesteg a £400,000 ar gyfer Rhaglen Datgarboneiddio 2030 a fydd yn chwarae rhan allweddol i helpu'r cyngor gyrraedd ei darged o gyflawni statws carbon sero-net erbyn 2030.
Bydd arbedion o £375,000 yn cael eu gwneud drwy newid i oleuadau stryd LED, rhentu dwy adain yn Ravens Court i asiantaethau partner, cau canolfannau ailgylchu am un diwrnod yr wythnos, codi tâl ar ddeiliaid bathodynnau glas am barcio a chynyddu costau am gasglu gwastraff swmpus ac ailgylchu gwastraff gardd.
Mae hon wedi bod yn broses anodd iawn, ond diolch byth, rydym ni wedi llwyddo i osgoi'r senario gwaethaf ac wedi llwyddo i warchod rhai gwasanaethau hynod boblogaidd fel cefnogi'r RNLI ym Mhorthcawl a pharhau gyda'n gorfodaeth gwastraff, gyda'r bwriad o gynyddu ein gweithgarwch sy’n ymwneud â thipio anghyfreithlon hefyd.
Mae hefyd yn dda gweld ein bod ni’n ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol i wasanaethau pwysig fel priffyrdd a meysydd chwarae plant. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i ni adeiladu ar ein gwaith presennol a chadw'r momentwm i fynd o ran gwneud meysydd chwarae yn fwy cynhwysol nag erioed o'r blaen.
Yn anochel, rydyn ni wedi gorfod gwneud rhywfaint o arbedion, ond mae'r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud gyda'n trigolion ar flaen ein meddwl ac rydyn ni'n benderfynol o wneud yn siŵr bod ein cymunedau yn parhau i ffynnu i bawb ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Dywedodd y Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau:
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio: "Er bod y gyllideb wedi cyflwyno nifer o benderfyniadau anodd i'r cyngor, mae'n braf iawn gweld buddsoddiad pellach yn cael ei ddyrannu i nifer o brosiectau adfywio allweddol, ac mae gan bob un ohonynt weledigaeth hirdymor i wneud yn siŵr bod trigolion yn elwa am lawer o flynyddoedd i ddod.
"Mae'r gyllideb hefyd yn dangos ymrwymiad y cyngor i bob ardal yn y fwrdeistref sirol drwy barhau i fuddsoddi ym mhrosiect adfywio Porthcawl ac ailddatblygiad Neuadd y Dref Maesteg. Bydd arian hefyd yn cael ei glustnodi i gronfa Cyngor Tref a Chymuned.
"Un o brif amcanion y gyllideb hon yw blaenoriaethu lles ein trigolion a bydd holl gynlluniau adfywio'r cyngor yn chwarae rhan wrth wneud hynny."
Bydd cyllideb y cyngor ar gyfer 2023-24 yn cael ei thrafod gan yr holl aelodau yn y Cyngor llawn ddydd Mercher 1 Mawrth cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.